Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Yn oes y data mawr, mae gan gwmnïau fwy o wybodaeth am ddefnyddwyr nag erioed o'r blaen. Gallant ddefnyddio'r wybodaeth hon i dargedu defnyddwyr, ond gallant hefyd ddefnyddio gwybodaeth am ddefnyddwyr (e.e. adborth o adolygiadau) i wella cynhyrchion a gwasanaethau. Mae dirnad cwsmeriaid a deall patrymau newidiol ymddygiad defnyddwyr yn bwysig i gwmnïau er mwyn bodloni anghenion cwsmeriaid ac yn y pen draw ar gyfer hyfywedd neu botensial gwneud elw'r cwmni.
Mae ein MSc Dadansoddeg Defnyddwyr a Marchnata Digidol yn rhoi'r cyfle i ddatblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau ar draws y swyddogaeth farchnata, gan gynnwys: rheoli brand a theyrngarwch, ymddygiad defnyddwyr, cyfathrebu ym maes marchnata, marchnata digidol a dirnad cwsmeriaid mewn cyd-destunau cenedlaethol a rhyngwladol.
Bydd graddedigion y cwrs hwn yn datblygu gwybodaeth eang am bynciau’n ymwneud â rheoli marchnata ac yn gallu arddangos gwybodaeth arbenigol a sgiliau dadansoddi ar draws ystod o raglenni marchnata a digidol. Bwriad y cwrs hwn yw paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfa mewn marchnata a marchnata digidol neu ddadansoddeg marchnata yn fwy penodol.
Bydd graddedigion y radd hon yn gymwys i gael eu heithrio o rai modiwlau o gymwysterau proffesiynol y Sefydliad Marchnata Siartredig. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan CIM.
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Dadansoddeg Defnyddwyr a Marchnata Digidol.
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Gradd israddedig 2(ii) (neu gyfwerth).
Bydd ceisiadau gan weithwyr proffesiynol sydd â chymwysterau ac eithrio gradd yn cael eu hystyried ar sail unigol. Mae'n hynod ddymunol fod gan ymgeiswyr brofiad gwaith. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth os gwelwch yn dda.
Yn achos myfyrwyr nad yw Cymraeg/Saesneg yn iaith gyntaf iddynt, bydd arnynt angen sgôr IELTS o 6.0 o leiaf (heb yr un elfen yn is na 5.5) neu gyfwerth.
Sylwch: bydd sgorau is na IELTS 6.0 neu gyfwerth hefyd yn cael eu cydnabod ar gyfer mynediad i'n cyrsiau Saesneg Cyn-sesiynol ar-lein.