Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Cynhaliwyd yr MSc mewn Eigioneg Ffisegol ym Mangor er 1965, ac mae wedi’i gynllunio’n benodol i rai sydd eisiau gweithio fel gwyddonwyr sy’n darogan effeithiau newid hinsawdd yn y dyfodol, yn y diwydiant ynni adnewyddadwy, neu mewn chwilio am adnoddau naturiol.
Mae'r cwrs wedi'i fwriadu'n benodol ar gyfer y rhai sydd â chefndir mewn gwyddorau rhifiadol neu amgylcheddol sydd â diddordeb mewn datblygu eu gwybodaeth ddamcaniaethol am y cefnforoedd a meithrin sgiliau ymarferol wrth weithio ar y môr. Caiff sgiliau ymarferol eu meithrin trwy gymryd rhan mewn gwaith arolygu ar long ymchwil y Brifysgol, y Prince Madog, a chychod arolygu llai. Rydych chi hefyd yn dysgu rhaglennu yn MATLAB, ac astudio datblygiad modelau rhifiadol a'u profi, gan ganolbwyntio'n arbennig ar ynni adnewyddadwy o'r môr.
Mae mwy o fodiwlau damcaniaethol yn ymdrin â thonnau, dynameg a llanw, a hinsawdd a newid yn yr hinsawdd. Mae elfen hyfforddedig y cwrs yn rhedeg o fis Hydref i fis Mai, ac ar ôl hynny byddwch yn cychwyn ar broject ymchwil unigol 3 mis sy'n arwain at gynhyrchu traethawd ymchwil. Yn dilyn hynny, cyhoeddir oddeutu 30% o draethawd ymchwil y radd MSc Eigioneg Ffisegol mewn cyfnodolyn gwyddonol a adolygir gan gymheiriaid
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Eigioneg Ffisegol.
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Fel rheol, mae gan ymgeiswyr llwyddiannus radd Anrhydedd is-radd dda mewn maes pwnc perthnasol, neu maent yn disgwyl cael gradd o'r fath. Anogir ymgeiswyr o feysydd pwnc eraill, neu sydd â phrofiad o waith cyflogedig perthnasol, i wneud cais, ar yr amod eu bod yn gallu dangos lefelau uchel o gymhelliant a phrofiad yn eu Datganiad Personol a'u CV, a chyda Lefel A neu uwch mewn mathemateg.
IELTS: Gofynnir am 6.0 (heb gynnwys yr un elfen o dan 5.5).
Gyrfaoedd
Gyda thros 50 mlynedd o brofiad o ddysgu Eigioneg Ffisegol yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion, cydnabuwyd ers amser fod graddedigion Bangor yn cael y sgiliau allweddol hynny y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Mae myfyrwyr yn dod o hyd i gyflogaeth yn y diwydiannau hydrocarbonau ac ynni adnewyddadwy alltraeth, cwmnïau contractau arolygon ar y môr, byrddau afonydd a phorthladdoedd a sefydliadau'r llywodraeth. Mae llawer o fyfyrwyr hefyd yn dewis mynd ymlaen i wneud PhD mewn Eigioneg Ffisegol, naill ai'n aros ym Mangor neu'n symud i brifysgol arall yn y Deyrnas Unedig neu dramor.