Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Datblygwyd y cwrs hwn i sicrhau bod gweithwyr gofal iechyd sy’n gweithio ym maes diabetes yn gwbl ymwybodol o’r wybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol gyfredol sy’n ymwneud â rheoli’r cyflwr a’i gymhlethdodau.
Gofynion Mynediad
Wedi cofrestru gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth/HCPC a thystiolaeth o gyflogaeth mewn maes clinigol sy'n rheoli cleifion â diabetes.
Gofynnir am IELTS 6.0 (heb unrhyw elfen dan 5.5).
Myfyrwyr Rhyngwladol: Gan fod y llwybr hwn yn un rhan-amser ac yn gofyn bod ymgeiswyr wedi cofrestru ar hyn o bryd gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth/Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal a chyda mynediad i amgylchedd clinigol, nid yw'r llwybr hwn yn addas i'r farchnad ryngwladol.