Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Gallwch hefyd astudio'r cwrs hwn yn llawn-amser dros flwyddyn neu yn rhan-amser dros 2 flynedd.
Bwriedir y cwrs ar gyfer pawb sydd â diddordeb mewn iechyd cyhoeddus, a hybu iechyd a lles. Gan adlewyrchu natur amrywiol iechyd y cyhoedd a hybu iechyd, cynlluniwyd y cwrs hwn i ddiwallu anghenion dysgu unigolion o ystod eang o gefndiroedd academaidd a galwedigaethol. Bydd myfyrwyr yn canolbwyntio ar ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sy'n ofynnol ar gyfer gwella iechyd a lles unigolion a phobl o wahanol ddiwylliannau trwy: hybu iechyd ac atal afiechydon; datblygu sgiliau i arwain a rheoli newid; ac asesu, cynllunio a gwerthuso ymyriadau polisi ac ymarfer. Mae cynnwys y cwrs yn canolbwyntio ar y ffactorau sy'n sail i iechyd y cyhoedd a hybu iechyd, epidemioleg, economeg iechyd, ymchwil, a'r gwyddorau cymdeithasol ac ymddygiadol.
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Iechyd y Cyhoedd a Hybu Iechyd (3 flynedd, rhan-amser).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Mae ymgeiswyr angen gradd israddedig 2(ii) neu uwch o amrywiaeth eang o bynciau. Rhaid i geisiadau gael eu cefnogi gyda datganiad personol cadarn sy'n nodi pam mae ymgeiswyr eisiau astudio'r cwrs hwn ym Mhrifysgol Bangor; mae angen geirda boddhaol hefyd (gan academydd a/neu gyflogwr, yn dibynnu ar amgylchiadau'r ymgeisydd).
Gellir ystyried derbyn ymgeisydd o dan amgylchiadau eraill, er enghraifft, yn meddu ar o leiaf 3 blynedd o brofiad gwaith perthnasol, geirdaon a datganiad personol cadarn a thystiolaeth o astudiaeth ddiweddar neu ddatblygiad proffesiynol (i ddangos gallu i astudio ar lefel 7).
Safon iaith Saesneg i fyfyrwyr rhyngwladol - gofynnwn am sgôr IELTS o 6 heb unrhyw elfen unigol yn is na 5.5 (neu gymhwyster cyfatebol).
Gyrfaoedd
Mae nifer o opsiynau gyrfa i raddedigion sydd â sylfaen ym maes iechyd y cyhoedd a hybu iechyd. Mae cyn-fyfyrwyr wedi cael swyddi yn y byd academaidd, datblygu cymunedol, economeg iechyd, addysg iechyd, hybu iechyd, addysg uwch, datblygu economaidd, iechyd yr amgylchedd, hybu iechyd/gwella iechyd, arweinyddiaeth a chynllunio, maeth, iechyd y cyhoedd, ymchwil, hyfforddiant ac ymwneud ag ieuenctid. Mae'r swyddi hyn mewn nifer o wahanol leoliadau gan gynnwys cyrff anllywodraethol, gwasanaethau cyhoeddus a'r llywodraeth, a'r sectorau gwirfoddol. Er bod y swyddi a'r lleoliadau'n amrywiol, mae pob un yn canolbwyntio ar amddiffyn a gwella iechyd unigolion a phoblogaethau.