Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Bangor University’s Masters in Linguistics provides postgraduate-level training for students who wish to develop a deeper understanding of the empirical, theoretical, and conceptual aspects of Linguistics.
This course is designed for home and international students with a strong interest in linguistics. Two possible paths are offered: one for students who have a BA in Linguistics and want to pursue more advanced studies in the discipline, and one for students with an undergraduate degree in any other subject wishing to achieve a qualification in linguistics.
We are an accessible, friendly Department whose staff are passionate about passing on their expertise and subject knowledge as well as committed to delivering the highest quality learning experience. Our research informs our teaching provision at all levels, meaning you'll learn about topics we're researching right now. Students benefit from enthusiastic staff at the cutting-edge of academic enquiry. Our staff are committed to providing an excellent student experience with strong personalised support throughout the duration of your MA in Linguistics.
Following taught components, students on this degree will complete an independent research-based Masters level dissertation. The staff in our Department provide excellent personalised supervision and academic support for dissertations on a wide range of topics in Linguistics using applied, theoretical, experimental, corpus-based or ethnographic frameworks. These include, but are not limited to:
- seicoieithyddiaeth
- caffael iaith plant
- caffael ail iaith
- dadansoddi disgwrs
- TEFL (dysgu Saesneg fel iaith dramor)
- caffael ail iaith (SLA) ac addysgu iaith
- ieithyddiaeth corpws
- iaith a chyfathrebu
- ffoneteg a ffonoleg
- morffogystrawen
- semanteg a phragmateg
- ieithyddiaeth hanesyddol
- amrywio a newid iaith
- iaith a chyfathrebu
- dwyieithrwydd ac amlieithrwydd
- anhwylderau iaith
- Dadansoddi Disgwrs Gwybyddol (CoDA)
- ieithyddiaeth Gymraeg
- technolegau iaith / prosesu iaith naturiol (NLP).
Gall myfyrwyr ar ein cwrs MA Ieithyddiaeth ddefnyddio cyfleusterau dysgu o’r radd flaenaf sy’n cynnwys:
- Stiwdio sain/recordio a labordy lleferydd o safon broffesiynol (gydag offer recordio Yamaha, Alesis a RØDE)
- Labordy olrhain llygaid (gyda thraciwr llygaid Tobii Pro X2-60)
- Labordy potensial digwyddiad-berthynol (ERP) (gyda pheiriant actiCHamp Plus ERP)
- A meddalwedd ac adnoddau ieithyddiaeth corpws pwrpasol.
Mae ein staff hefyd yn arbenigwyr yn y meysydd canlynol a gallant gynnig cefnogaeth ynddynt:
- Meddalwedd ystadegol megis: SPSS, R-Statistics ac Excel.
- Meddalwedd seicoleg arbrofol fel E-Prime, GORILLA Experiment Builder, Open Sesame a Webexp.
- Meddalwedd dadansoddi acwstig a seinegol fel: Audacity, Praat, a SIL Speech Analyzer
- Profion seicometrig / iaith safonol (e.e. EVT, BPVS, NARA, WISC, K-BIT, TROG, CELF)
- Amrywiaeth eang o feddalwedd corpws a choncordans arbenigol gan gynnwys CHILDES a CLAN
Ym Mangor byddwch yn rhan o gymuned ymchwil fywiog ac arloesol a gefnogir gan wahanol ddigwyddiadau trwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys sgyrsiau unigol, seminarau a gweithdai anffurfiol a chynadleddau mawr. Mae llawer o'r rhain yn agored nid yn unig i staff academaidd, ond hefyd i fyfyrwyr ac i'r cyhoedd.
Fy enw i ydi Elham Taheri, ac roeddwn yn astudio ieithyddiaeth gymhwysol ar gyfer TEFL i ddysgu Saesneg fel iaith dramor.
Yn gyntaf oll, mi wnes i fwynhau cael fy nysgu gan athrawon proffesiynol iawn.
Wrth gwrs, rydw i wedi astudio Saesneg yn y gorffennol, ond y tro yma roedd yn fwy proffesiynol ac roeddwn wrth fy modd efo hynny.
Mae'n lle clos a chyfeillgar.
Ac roedd y cwrs, oherwydd bod ganddo rannau damcaniaethol a rhan ymarferol, yn help mawr i mi.
Rydw i wedi dysgu llawer, nid yn unig yn y dosbarthiadau ond hefyd yn y sesiynau ymarferol, a defnyddio'r damcaniaethau oedd yn cael eu defnyddio yn fy nosbarthiadau.
Ac fel y dywedais, oherwydd yr athrawon proffesiynol sydd yma, rydw i wedi dysgu llawer
Ar hyn o bryd, yn union. Ar ôl i mi orffen fy nghwrs yma, symudais i Lundain ac roeddwn yn ddigon ffodus i gael swydd mewn coleg yn Llundain.
Doeddwn i ddim yn meddwl y byddai mor hawdd â hynny, ond yn ddigon ffodus oherwydd fy mod yn graddio o Brifysgol Bangor,
roedd yn hawdd i mi ddod o hyd i swydd ac roeddwn wrth fy modd gyda fy swydd fel athro.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Modiwlau Gorfodol
Sylfeini Ieithyddiaeth - Mae'r modiwl hwn yn cynnig trosolwg o ddisgyblaeth gwyddor iaith. Mae’n ymdrin yn benodol â syniadau a methodolegau allweddol wrth astudio ystyr, gramadeg a sain. *Gall myfyrwyr sydd wedi gwneud gwaith cwrs blaenorol mewn ieithyddiaeth o bosib hepgor Sylfeini Ieithyddiaeth ac ennill y nifer cyfatebol o gredydau o restr o Fodiwlau Dewisol*.
Dulliau Ymchwil Ieithyddiaeth - Mae’r modiwl hwn yn darparu’r sylfeini, yr hyfforddiant a’r offer angenrheidiol i gynllunio a chyflawni ymchwil ansoddol, meintiol, arbrofol neu ethnograffig mewn ieithyddiaeth, yn ogystal â’r hyfforddiant a’r profiad i ddatblygu, cynllunio a chyflawni project traethawd hir annibynnol ar lefel Meistr ar sail ymchwil, gan ddefnyddio confensiynau arferol llenyddiaeth ieithyddiaeth / ieithyddiaeth gymhwysol.
Traethawd Hir MA/MSc - Yn y modiwl hwn bydd y myfyrwyr yn cyflawni darn o waith ymchwil unigol ar raddfa fechan sy’n arwyddocaol, ac ar lefel uwch, ac yn ysgrifennu traethawd hir 15-20,000 o eiriau arno. Pennir aelod staff â diddordebau ymchwil sydd â'r cysylltiad gorau a/neu agosaf i'r testun yn oruchwyliwr ar y myfyriwr. Bydd y goruchwyliwr yn cynorthwyo'r myfyriwr i ganolbwyntio ar gwmpas, methodoleg a chynnwys eu traethawd hir, yn ogystal â chynnig cyngor trwy gydol y project. O dan gyfarwyddyd y goruchwyliwr, bydd y myfyrwyr yn canolbwyntio ar gwestiwn eu hymchwil ac yn ei fireinio, ynghyd ag archwilio deunyddiau darllen perthnasol, yn cynllunio'r project, penderfynu ar fethodoleg, ystyried yr angen am gymeradwyaeth foesegol a gweithredu'n unol â hynny, yn casglu a dadansoddi data (gan ddibynnu ar natur yr ymchwil) gan ddefnyddio fframwaith dadansoddol priodol, ac yn ysgrifennu traethawd hir am y project a fydd yn mynd i’r afael â'r cwestiwn ymchwil yng ngoleuni'r canfyddiadau.
Modiwlau Dewisol
Mae’r modiwlau’n amrywio o’r naill flwyddyn i’r llall, ac yn cynnwys:
- Iaith a Chyfathrebu
- Ieithyddiaeth Hanesyddol
- Seicoieithyddiaeth
- Newid Iaith
- Cysylltiad Iaith a Dwyieithrwydd
- Caffael Iaith Plant
- Anhwylderau Iaith a Dwyieithrwydd
- Dwyieithrwydd a Materion Caffael
- Gwyddor Lleferydd
- Ffonoleg a Chaffael Dwyieithrwydd
- Dysgu Siarad Ail Iaith
- Ieithyddiaeth Gymraeg
- Dadansoddi Disgwrs Gwybyddol
- Defnyddio Corpora: Theori ac Ymarfer
- Theori Saesneg fel Iaith Dramor
- Caffael Ail Iaith ac Addysgu Iaith
- Addysgu Saesneg fel Iaith Dramor
- Technolegau Iaith
Efallai y gofynnir i rai nad ydynt yn siaradwyr Saesneg brodorol ddilyn cyrsiau di-gredyd gydag ELCOS i'w cynorthwyo gyda'u Saesneg, oni chânt eu heithrio gan eu tiwtor.
Syniad bras o gynnwys y cwrs yn unig a geir yma a gall newid
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Ieithyddiaeth.
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Gradd israddedig 2.ii neu gyfwerth mewn pwnc perthnasol (e.e. Ieithyddiaeth, Ieithoedd Modern, Cyfieithu, Seicoleg, Iaith/Llenyddiaeth Saesneg, Addysg Saesneg/Addysg Iaith Saesneg).
Bydd ymgeiswyr sydd â chymwysterau neu brofiad cyfwerth a cheisiadau gan weithwyr proffesiynol nad oes ganddynt radd yn cael eu hystyried fesul un. Mae croeso i chi gysylltu â ni am fwy o wybodaeth.
Yn achos y myfyrwyr hynny nad yw Saesneg yn iaith gyntaf iddynt, bydd arnynt angen sgôr IELTS o 6.0 o leiaf (heb i unrhyw elfen fod yn is na 5.5).
Gyrfaoedd
Bydd MA mewn Ieithyddiaeth yn rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o sut mae iaith yn gweithio ynghyd â'r gallu i gynnal ymchwil ar wahanol lefelau o ddadansoddiad ieithyddol. Mae graddedigion yn dod o hyd i gyfleoedd gyrfa mewn cyfathrebu, addysgu, cyhoeddi, ymchwil. Mae'r sgiliau trosglwyddadwy a geir o astudio'r rhaglen hon yn fuddiol mewn amrywiaeth o yrfaoedd eraill, gan gynnwys hysbysebu, newyddiaduraeth, ymgynghori ac ati. Yn dilyn cwblhau'r MA mewn Ieithyddiaeth yn llwyddiannus efallai y byddwch yn penderfynu dilyn gyrfa academaidd mewn Ieithyddiaeth, trwy wneud cais i astudio am PhD mewn Ieithyddiaeth.