Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Newydd ar gyfer Medi 2024.
Mae datblygiadau diweddar ym maes meddygaeth asesu, sefydlogi a throsglwyddo cleifion yn y Deyrnas Unedig wedi arwain at greu rolau unigryw i ymarferwyr ym maes meddygaeth sefydlogi a throsglwyddo. Nod y rhaglen hon yw darparu fframwaith academaidd cadarn i unigolion sy'n hyfforddi i fod yn uwch ymarferwyr mewn meddygaeth asesu, sefydlogi a throsglwyddo cleifion. Mae'r rhaglen yn ymdrin ag asesu, sefydlogi a throsglwyddo cleifion ar draws y rhanbarth/Deyrnas Unedig a’u dychwelyd i’r wlad. Bydd angen i fyfyrwyr fod yn hyfedr wrth gynorthwyo gyda rheoli cleifion sy’n ddifrifol wael, sy'n golygu bod angen dangos gwybodaeth a sgiliau mewn defnyddio peiriant anadlu mewnwthiol, monitro a rhoi cefnogaeth haemodynamig ymledol, a dehongli ymchwiliadau.
Nod y rhaglen yw darparu fframwaith academaidd cadarn i unigolion sy'n hyfforddi i fod yn uwch ymarferwyr mewn meddygaeth awyr. Mae'r cwrs yn ymdrin â gofal cyn-ysbyty ac asesu, sefydlogi a throsglwyddo cleifion, gan gynnwys rheoli cleifion sy'n ddifrifol wael ac sydd angen trosglwyddiad lefel 3 rhwng ysbytai. Mae’r cwrs yn bennaf ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol profiadol sy'n dymuno ffurfioli a datblygu eu hymarfer, a bydd gofyn i ddysgwyr ddatblygu o fewn lleoliadau ymarfer credadwy. Bwriedir i'r cwrs fod yn heriol, a bydd gofyn i ddysgwyr ddangos hyfedredd mewn asesu clinigol wedi'i dargedu, rheolaeth glinigol, therapiwteg a diagnosteg gyflym yn yr amgylchedd cyn-ysbyty. Yn ogystal, bydd angen i ddysgwyr fod yn hyfedr wrth gynorthwyo gyda rheoli cleifion lefel 3, sy'n golygu bod angen dangos gwybodaeth a sgiliau mewn defnyddio peiriant anadlu mewnwthiol, monitro a rhoi cefnogaeth haemodynamig ymledol, a dehongli ymchwiliadau.
Darpariaeth Gynhwysol i Fyfyrwyr Anabl (Cod 11)
Bydd y rhaglen yn defnyddio nifer o ddulliau asesu sy’n darparu ar gyfer amrywiaeth o fyfyrwyr. Gwelir hyn fel dull gweithredu strategol at addasiadau rhesymol ac fe’i wneir er mwyn creu amodau lle bydd pob un myfyriwr ac aelod staff yn cael cyfle i lwyddo.
Noder: nid yw’r cwrs hwn wedi ei achredu gyda’r Faculty of Intensive Care Medicine (FICM).
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
- Gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl o faterion penodol sy’n rhan flaenllaw o theori ac ymarfer ym meysydd proffesiynol myfyrwyr sy'n ymwneud â meddygaeth asesu, sefydlogi a throsglwyddo cleifion a’u dychwelyd i’r wlad;
- Meistrolaeth ar dechnegau gwerthuso beirniadol ac ymchwilio ysgolheigaidd i greu a dehongli gwybodaeth newydd sy’n flaenllaw yn eu maes proffesiynol;
- Sefydlu safbwynt ehangach ar ymarfer clinigol gan ystyried cyd-destun/amgylchedd ehangach a deinamig meddygaeth asesu, sefydlogi a throsglwyddo cleifion sy’n derbyn gofal critigol uwch.
Sgiliau pwnc-benodol
- Cyfleu egwyddorion a chysyniadau gofal yn effeithiol mewn perthynas â meddygaeth asesu, sefydlogi a throsglwyddo cleifion;
- Dangos lefelau uwch o farn broffesiynol gyda gwell gwerthfawrogiad o ymarfer ar sail tystiolaeth sy’n ymwneud â’r maes gofal hwn;
- Sefydlu creadigrwydd, menter a chyfrifoldeb personol dros ymarfer addysgol, proffesiynol ac ymchwil parhaus;
- Caffael y cymwysterau a’r sgiliau trosglwyddadwy sy'n berthnasol i symud ymlaen tuag at eu llwybr gyrfa arfaethedig;
- Dangos y gallu i integreiddio gwybodaeth bwnc-benodol mewn perthynas ag anatomeg, ffisioleg ac uwch sgiliau ymarfer
Sgiliau Allweddol
- Datblygu sgiliau trosglwyddadwy sy'n gymesur â'r gofynion proffesiynol mewn perthynas â sefydlogi a throsglwyddo cleifion;
- Meistrolaeth ar gymhlethdod datblygu gwybodaeth newydd mewn perthynas â ymarfer a rheoli ym maes sefydlogi a throsglwyddo;
- Mabwysiadu sgiliau uwch i adnabod a gwella'r gallu i arwain yn bersonol a phroffesiynol;
- Adolygu a gwerthuso'n feirniadol eu gallu personol i weithredu fel aelod o'r tîm ac i hyrwyddo cydweithio rhyngbroffesiynol
Sgiliau Gwybyddol
- Dangos y gallu i ddefnyddio uwch resymu clinigol yn eu maes proffesiynol gan syntheseiddio safbwyntiau damcaniaethol, empirig, proffesiynol a moesegol;
- Dangos y gallu i adfyfyrio'n feirniadol ar ymarfer a dangos hunanymwybyddiaeth;
- Dangos lefelau uwch o feddwl wrth herio a chwestiynu gwahanol ffynonellau gwybodaeth
- Dangos lefel o sgiliau meddwl yn feirniadol sy'n datblygu ac yn ymestyn syniadau newydd yn eu maes proffesiynol, gan roi sylw arbennig i drosglwyddo gwybodaeth a sgiliau cymhwysol yn eu maes neu ddisgyblaeth o'u dewis;
Strategaethau a Dulliau Addysgu a Dysgu
- E-ddysgu
- Cofnodion a chymwyseddau dysgu sy’n seiliedig ar ymarfer
- Tiwtorialau
- Sgiliau clinigol
- Astudio hunan-gyfeiriedig
Dulliau Asesu
- Arholiad heb ei weld ymlaen llaw / Traethawd Viva Voce
- Cyflwyniad
- Cwestiynau aml-ddewis
- Arholiad Corfforol Strwythuredig Gwrthrychol (OPSE)
- Adborth Aml-Ffynhonnell (MSF)
- Portffolio sy’n Seiliedig ar Asesiad yn y Gweithle (WPBA)
Sylwer: Syniad bras o gynnwys y cwrs yn unig a geir yma a gallai pethau newid.
Gofynion Mynediad
- Mae angen gradd gyntaf o safon dosbarth cyntaf neu 2.i (neu gymhwyster cyfwerth)
- Bydd ymgeiswyr â gradd 2.ii yn cael eu hystyried fesul achos, a bydd eu haddasrwydd yn cael ei asesu’n rhannol drwy eirda a datganiad personol/cefnogol
- Rydym yn hapus i ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn.
Mae hefyd angen y canlynol:
- Bod wedi eich cofrestru gyda chorff statudol sy'n berthnasol i’r maes ymarfer
- Gwiriad manylach cyfredol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
- Geirdaon a datganiad personol cryf
- Tystiolaeth o fynediad at atodiadau clinigol i gwblhau elfennau craidd y cwrs
- Cadarnhad gan ysbyty (e.e. Contract er Anrhydedd gan y Bwrdd Iechyd, llythyr gan Brif Glinigwr Adrannol) y caniateir i chi fynd i theatrau/unedau gofal dwys i gwblhau elfennau gofal critigol allweddol y rhaglen
- Cadarnhad gan wasanaeth casglu a throsglwyddo y bydd gennych fynediad at atodiad clinigol o hyd digonol i gwblhau elfennau allweddol o’r rhaglen sydd wedi eu lleoli yn yr awyr.
Sylwer: Mae llythyr cefnogi gan eich cyflogwr yn debygol o fodloni un o'r meini prawf uchod.
Cyfweliadau
Os cewch eich dewis, gofynnir i ymgeiswyr ddod am gyfweliad gyda phersonél academaidd y Brifysgol a Staff Clinigol i gadarnhau addasrwydd ymgeiswyr.
Rheoliadau asesu
Asesir y rhaglen yn unol â rheoliadau a chodau ymarfer y Brifysgol.
Gyrfaoedd
Bwriad penodol y rhaglen yw bodloni gofynion Gwasanaeth Trosglwyddo Gofal Acíwt a Chritigol (ACCTS) y Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMERTS). Mae ACCTS yn wasanaeth sefydledig ar gyfer trosglwyddo cleifion oedolion sy’n ddifrifol wael rhwng ysbytai. Mae rhaglen sy'n bodloni eu gofynion yn debygol o fod yn ddeniadol i ddysgwyr addas yng Nghymru a thu hwnt. Noder: nid yw’r cwrs hwn wedi ei achredu gyda’r Faculty of Intensive Care Medicine (FICM).