Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae croeso i chi gysylltu â ni am wybodaeth am y cwrs sy'n cychwyn ym Mawrth 2025 a chofrestru eich diddordeb.
Cymeradwywyd y cwrs hwn gan yr NMC. Mae MSc Nyrsio Iechyd Meddwl hefyd ar gael.
Mae'r MSc mewn Nyrsio Oedolion yn arwain at gymhwystra i gofrestru gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ac mae'n cynnig llwybr wedi ei gyllido dros ddwy flynedd i nyrsio ar gyfer graddedigion, gan ennill cymhwyster ôl-radd ar yr un pryd. Mae'r cymhwyster ôl-radd hwn wedi'i fwriadu ar gyfer graddedigion sy'n dymuno datblygu a chymhwyso'r wybodaeth a gawsant yn ystod eu cwrs gradd israddedig a dilyn gyrfa ym maes cyflwyno gwasanaethau gofal iechyd yn uniongyrchol. Amcan y cwrs hwn yw paratoi nyrsys cofrestredig sy'n gallu cynnig gofal tosturiol o ansawdd rhagorol, gwell arweinyddiaeth, rheolaeth ac sy'n meddu ar sgiliau rhyngbroffesiynol ac ymchwil, er mwyn dylanwadu ar ymarfer ac ysgogi newid.
Mae ein darpariaeth addysgu eithriadol yn seiliedig ar yr ymchwil ddiweddaraf i ymarfer (sy'n ffocws allweddol o weithgaredd ymchwil yr ysgol) ac mae wedi'i wreiddio mewn ymarfer clinigol modern. Bydd yr MSc Nyrsio Oedolion yn paratoi graddedigion yn arbennig o dda i ffynnu mewn amgylcheddau sy'n newid yn gyflym, gan ystyried sut y gall ymddygiad, diwylliant, ffactorau economaidd-gymdeithasol ac eraill, yn yr amgylchedd gofal a'i leoliad effeithio ar iechyd, salwch, canlyniadau iechyd a blaenoriaethau iechyd y cyhoedd.
Bydd myfyrwyr MSc yn graddio o'r rhaglen gyda’r cymhwystra i gofrestru gyda’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth fel nyrs oedolion, gyda'r wybodaeth, y sgiliau, y cymhwysedd a'r gwerthoedd angenrheidiol sy'n ofynnol i fodloni gofynion statudol angenrheidiol ar gyfer cofrestru gyda’r NMC.
Dim Angen Talu Ffioedd Dysgu
Os ystyrir eich bod yn fyfyriwr cartref o’r Deyrnas Unedig o ran ffioedd dysgu, a all ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio, gallech gael eich ffioedd dysgu wedi'u talu'n llawn drwy Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru a gwneud cais am gyfraniad bwrsariaeth o £1,000 tuag at gostau byw. Cewch hefyd wneud cais am y fwrsariaeth yn seiliedig ar brawf modd sy'n ddibynnol ar incwm yr aelwyd ac unrhyw gyllid arall ac mae meini prawf cymhwysedd ar gyfer cymorth gofal plant, lwfans dibynnydd a lwfans i rieni sy’n dysgu. Pe bai'n well gennych beidio â gweithio yng Nghymru ar ôl i chi raddio gallwch wneud cais am gyllid benthyciad myfyriwr meistr ar gyfer eich ffioedd a grant cynhaliaeth is.
Oherwydd bod y cwrs yn cael ei ariannu gan GIG Cymru, ni allwn dderbyn ceisiadau gan fyfyrwyr tramor. Mae manylion llawn ar gael ar dudalen ariannu'r GIG.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Byddwch yn meithrin y wybodaeth, y sgiliau a'r ymddygiad angenrheidiol i fodloni gofynion statudol i gofrestru fel nyrs oedolion weithredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth. Pan fyddwch yn graddio, bydd gennych ddealltwriaeth drylwyr o'r cymwyseddau, yr egwyddorion a'r prosesau sy'n sail i ddarparu gofal diogel ac effeithiol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a'r gallu i gymhwyso gwybodaeth ac egwyddorion i wahanol leoliadau gofal.
Bydd y cwrs hwn yn eich datblygu fel ymarferydd annibynnol, adfyfyriol sydd â'r rhinweddau a'r gwerthoedd sydd eu hangen i ddarparu gofal diogel ac effeithiol. Byddwch yn datblygu sgiliau arwain a rheoli y gellir eu datblygu ymhellach ar ôl cymhwyso, gan alluogi'r ymarferydd i ddatblygu ymarfer, hyrwyddo a chynnal newid, dirprwyo, goruchwylio a rheoli ei hun ac eraill, gan gyfrannu at gynllunio, dylunio, cyflwyno a gwella gwasanaethau yn y dyfodol.
Drwy gydol y rhaglen, mae lleoliadau ymarfer wedi'u cynllunio i ddarparu ystod o brofiad nyrsio oedolion. Bydd astudiaethau damcaniaethol gorfodol a lleoliadau clinigol mewn ysbytai acíwt a chymunedol yng ngogledd Cymru. Yn ystod lleoliadau byddwch yn aelod ychwanegol ac mae hyn yn eich galluogi i weithio ochr yn ochr â'ch mentor a chymryd rhan mewn darparu gofal nyrsio. Bydd cefnogaeth gan diwtor personol sy'n nyrs gofrestredig ac aelod academaidd o’r staff a goruchwyliaeth fentora gan nyrs gofrestredig profiadol ar leoliad. Caiff gwaith damcaniaethol ac ymarferol ei asesu drwy aseiniadau, arholiadau, cyflwyniadau a phortffolio Asesu Ymarfer Clinigol Cymru gyfan.
Strwythur y Cwrs
Blwyddyn 1
- Egwyddorion Nyrsio Oedolion
- Cysyniadau Cyfreithiol a Moesegol
- Oedolion â Chyflyrau Cronig
- Ffisioleg a Phathoffisioleg
- Ymarfer Nyrsio 1
Blwyddyn 2
- Oedolion ag Anghenion Cymhleth
- Arwain, Arloesi a Gweithredu
- Modiwl Traethawd Hir: Tystiolaeth ar gyfer Ymarfer
- Ymarfer Nyrsio 2
Addysgu, Dysgu ac Asesu
Bydd y strategaeth addysgu a dysgu ar gyfer y cwrs yn canolbwyntio ar y myfyriwr ac yn adeiladu ar y sgiliau graddedigion a ddatblygwyd yn ystod eich gradd gyntaf. Er y bydd rhai darlithoedd a addysgir ym mhob modiwl, bydd y prif bwyslais ar weithio mewn grŵp i ddatblygu eich gwybodaeth, eich sgiliau gwneud penderfyniadau clinigol, a dod o hyd i atebion i broblemau bywyd ‘go iawn’.
Sut byddwch chi’n astudio?
Mae’r cwrs yn 50% theori a 50% o ddysgu ar leoliad ymarfer, yn cynnwys 22 wythnos o addysgu theori a 22 wythnos o ddysgu ar leoliad ymarfer. Fe'i cyflwynir trwy gyfuniad o addysgu theori yn y cnawd a thiwtorialau a seminarau ar-lein. Byddwch yn mynd i sesiynau wedi’u hwyluso i ddatblygu’r sgiliau clinigol sydd eu hangen i fodloni Safonau Nyrs y Dyfodol 2018 yr NMC ac i’ch paratoi ar gyfer eich dysgu drwy ymarfer.
Bydd eich dysgu drwy ymarfer yn digwydd mewn lleoliadau clinigol amrywiol ar draws Gogledd Orllewin Cymru, gan gynnwys gofal cychwynnol ac eilaidd, gan gynnig amrywiaeth o gyfleoedd mewn lleoliadau acíwt a chymunedol. Byddwch yn cael eich cefnogi gan oruchwyliwr ymarfer ac aseswr ymarfer mewn ymarfer clinigol, yn ogystal ag aseswr academaidd, i sicrhau eich bod yn gwneud cynnydd ac yn cyflawni'r cymwyseddau sy'n ofynnol i gofrestru gyda'r NMC.
Gofynion Mynediad
Sylwch nad yw'r cwrs hwn ar gael i fyfyrwyr rhyngwladol.
Disgwylir i ymgeiswyr fel rheol fod wedi ennill gradd anrhydedd 2.2 o leiaf mewn pwnc perthnasol yn y pum mlynedd ddiwethaf (sef pwnc yn gysylltiedig ag iechyd / bywyd neu wyddorau cymdeithas), a gallu dangos iddynt gyflawni 700 awr o brofiad cysylltiedig â gofal iechyd y gellir ei fapio i gymwyseddau craidd pwynt dilyniant un yr NMC.
Gofynion TGAU: Yn ogystal â chael gradd addas, mae'r NMC yn ei gwneud yn ofynnol i bob ymgeisydd ddangos tystiolaeth o gyfathrebu a rhifedd, a rhaid dangos y rhain drwy TGAU gradd C/4 neu uwch yn Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg iaith gyntaf neu gymhwyster amgen cydnabyddedig.
‘Iechyd Da a Chymeriad Da’: Mae'r NMC hefyd yn ei gwneud yn ofynnol cael tystiolaeth o 'Iechyd Da a Chymeriad Da', ac yn ogystal â geirda cefnogol i'r cais, mae'r Ysgol wedi mabwysiadu geirda Cymeriad Da Cymru Gyfan. Asesir Cymeriad Da ymhellach trwy gyfrwng adroddiad llawn/cliriad uwch gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), gyda'r bartneriaeth yn asesu risg yn unol â pholisi'r Ysgol. Asesir Iechyd Da gan Uned Iechyd yn y Gwaith y Bwrdd Iechyd lleol, ac mae myfyrwyr yn cael eu monitro drwy gydol y rhaglen a'u cefnogi lle bo angen.
Prosesau dewis
- Cyflwyno cais. Dim ond ceisiadau a gyflwynir trwy ein porth Ceisiadau Uniongyrchol fydd yn cael eu hystyried
- Llunio rhestr fer yn erbyn meini prawf cytunedig (gan gynnwys: datganiad personol, geirdaon a gofynion rhifedd a llythrennedd)
- Gwahoddir yr ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer i gyfweliad
- Cliriad uwch y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
- Adolygiad iechyd galwedigaethol
- Os byddant yn llwyddiannus yn y cyfweliad, gwahoddir ymgeiswyr i symud ymlaen i ran dau y broses ddewis a chânt eu gwahodd i gwblhau a chyflwyno eu portffolio Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL)/REPL.
Bydd digwyddiadau a phrosesau dewis yn cynnwys darlithwyr mewn nyrsio oedolion, staff clinigol y Bwrdd Iechyd, cyfranogwyr sy'n ddefnyddwyr gwasanaeth. Bydd y rhai fydd yn cymryd rhan yn y prosesau dewis yn cael hyfforddiant a chefnogaeth mewn amrywiaeth a chydraddoldeb fel rhan o'u datblygiad proffesiynol.
Tystiolaeth o gyrhaeddiad / Portffolio Adfyfyriol
Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr sy’n symud ymlaen yn llwyddiannus i ran dau y broses ddewis gwblhau portffolio adfyfyriol RP(E)L sy'n dangos y cyflawnwyd pwyntiau dilyniant Blwyddyn 1 a amlinellir yn Safonau ar gyfer Addysg Nyrsio Rhag-gofrestru y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC, 2018). Fel rhan o'r portffolio hwn, rhaid i ymgeiswyr gyflwyno eu tystysgrif BSc/BA a thrawsgrifiad o'r modiwlau a gwblhawyd yn ystod eu gradd.
Rhaid i’r portffolio adfyfyriol gynnwys enghreifftiau penodol a thystiolaeth yn dangos sut mae profiad gofal iechyd yr ymgeisydd yn dangos y cyflawnwyd y pwyntiau dilyniant gofynnol. Gall tystiolaeth gynnwys enghreifftiau o brofiadau ymarfer, diwrnodau astudio a fynychwyd, hyfforddiant gorfodol, a geirdaon a ddarperir gan gyflogwyr. Bydd yn ofynnol hefyd i ymgeiswyr gwblhau Datganiad o Waith eu Hunain, yn cadarnhau eu bod wedi cwblhau'r portffolio PRL/RPEL.
Mae meini prawf asesu'r portffolio fel a ganlyn:
- Dilysrwydd: A oes tystiolaeth glir yn cefnogi bod meini prawf dilyniant Blwyddyn 1 yr NMC wedi eu cyflawni'n llawn?
- Cyfreithlondeb: A yw'r cyflawniad yn ddigonol i fodloni pwyntiau dilyniant Blwyddyn 1 yr NMC?
- Amserlen: A yw'r honiadau'n seiliedig ar brofiadau sy'n berthnasol i'r lleoliad gofal iechyd presennol, h.y., yn y 3 blynedd ddiwethaf?
- Digonolrwydd: A yw'r dystiolaeth yn ddigonol i ddangos cyrhaeddiad y dysgu/profiadau a honnir yn llawn?
- Sgiliau Graddedigion: A yw'r ymgeisydd wedi dangos lefel ddisgwyliedig y sgiliau astudio ar gyfer mynediad ar Lefel 7?
Caiff y portffolio ei adolygu gan aelod staff academaidd a chaiff ei asesu fel llwyddo neu fethu.
Mwy o wybodaeth bwysig:
- Dyslecsia / Anabledd: Anogir ymgeiswyr ag anghenion penodol mewn perthynas â dyslecsia neu anabledd i ddatgan hyn ar glawr blaen eu portffolio RPL/REPL fel y gellir ystyried hyn wrth adolygu'r dystiolaeth.
- Mae nifer penodol o leoedd wedi eu cyllido ar y rhaglen hon (mae meini prawf cyllid a rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan WEDS).
- Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr sy'n derbyn lle wedi'i gyllido ar gyfer y cwrs hwn weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio o’r rhaglen.
- Caiff myfyrwyr ag anableddau, o wneud cais, gefnogaeth gan Swyddog Anableddau'r Brifysgol ac Ymgynghorydd Anableddau'r Ysgol, a gwneir asesiadau risg perthnasol ac addasiadau lle bo angen.
- Os oes materion yn gysylltiedig â Chymeriad Da, Iechyd Da, neu Anabledd sydd angen archwiliad neu ymchwiliad pellach, ymgynghorir â'r Ysgol a Phwyllgor Addasrwydd i Ymarfer y Bwrdd Iechyd Lleol.
- Gan fod hon yn rhaglen a ariennir gan y Gwasanaeth Gweithlu, Addysg a Datblygu (WEDS), ni fydd myfyrwyr rhyngwladol yn gymwys i wneud cais am y rhaglen astudio hon.
Gyrfaoedd
Gall myfyrwyr sy'n cwblhau'r MSc mewn Nyrsio Oedolion yn llwyddiannus gofrestru eu statws proffesiynol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a chwilio am waith fel nyrs gofrestredig drwy broses Addysg a Gwella Iechyd Cymru.
Mae cyfraddau cyflogadwyedd yn uchel o gymharu â graddedigion eraill, o ystyried y cymhwysedd proffesiynol a'r cymhwyster yn gysylltiedig â gradd. Mae cyfleoedd gyrfa unwaith y ceir gwaith fel nyrs gofrestredig yn ardderchog a gallant arwain at gyfleoedd cael dyrchafiad mewn ymarfer clinigol/arbenigedd, ymchwil neu addysg.
Cyngor am Yrfaoedd
Ceir cyngor am yrfaoedd gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol wrth ymarfer ac mewn sesiynau gyrfaoedd penodol ac mae gan wasanaeth Gyrfaoedd y GIG ragor o fanylion am y cyfleoedd gyrfa sydd ar gael.