Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r rhaglen ddysgu gyfunol hon yn gyfle rhagorol i unrhyw nyrs sy'n newydd i bractis cyffredinol. Mae'r llwybr yn annog nyrs bractis i ddatblygu sgiliau sylfaenol ac mae'n galluogi myfyrwyr i wella eu datblygiad gyda dewis o fodiwlau perthnasol, megis mân salwch ac atal cenhedlu. Mae modiwl craidd y rhaglen hon (Nyrsio mewn Practis Cyffredinol) yn cysylltu â chymwyseddau nyrs practis cyffredinol Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol (RCGP, 2012).