Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae nifer y cymunedau a’r gweithleoedd dwyieithog ac amlieithog ar gynnydd, a chynllunio ieithyddol yn faes o bwysigrwydd cynyddol. O’r herwydd, ceir mwyfwy o alw am unigolion sydd â’r wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i lunio strategaethau a systemau effeithiol sy’n hyrwyddo cydraddoldeb ieithyddol. Wrth i ystyriaethau ieithyddol ddod yn flaenoriaeth ar gyfer llawer o feysydd - datblygu, cynllunio, addysg, iechyd, TG, marchnata - mae angen i staff mewn amrywiaeth eang o feysydd ddatblygu dealltwriaeth a sgiliau ym maes cynllunio ieithyddol. Ar ben hynny, mae cyhoeddi Mesur y Gymraeg (Cymru) (2011) wedi newid y fframwaith cyfreithiol ynghylch defnyddio'r Gymraeg ac felly’n golygu galw cynyddol fyth am weithlu dwyieithog, amryddawn.
Mae’r MA mewn Polisi a Chynllunio Ieithyddol yn archwilio, mewn modd arloesol a chynhwysfawr, faes sy’n dod yn fwyfwy pwysig yng Nghymru a’r tu hwnt. Mae’r rhaglen yn elwa o arbenigedd amrywiol ysgolion Prifysgol Bangor ym meysydd Gwyddorau Cymdeithas, Ieithyddiaeth, Y Gyfraith, Busnes, Y Gymraeg, a Gwyddorau Iechyd a fydd yn rhoi i fyfyrwyr ddealltwriaeth o’r cwestiynau theoretig yng nghyswllt Cynllunio Iaith, yn ogystal â’r cwestiynau cymhwysol hollbwysig.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae’r rhaglen yn anelu at ymdrin ag anghenion unigolion, cymunedau a sefydliadau am ddealltwriaeth fwy soffistigedig o gynllunio iaith, yn cynnwys gwybodaeth theoretig. Cynigir y rhaglen fel MA (180 credyd), Diploma ôl radd (120 credyd) a Thystysgrif ôl radd (60 credyd) gyda’r posibilrwydd o ymadael ar ôl pob lefel. Ar bob lefel (Meistr, Diploma a Thystysgrif), mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i roi’r wybodaeth angenrheidiol i fyfyrwyr, fel y gallant weithredu systemau llwyddiannus o gynllunio iaith yn y gweithle, y gymuned, y system addysg a’r teulu. Ar lefel Meistr Diploma, bydd disgwyl hefyd i fyfyrwyr ddatblygu dealltwriaeth gadarn o ddulliau ymchwil. Trwy’r traethawd hir, bydd y rhaglen Meistr yn rhoi cyfle i fyfyrwyr archwilio ymhellach agwedd benodol ar gynllunio iaith, ac yn gam tuag at astudiaethau ar lefel ddoethurol os bydd myfyrwyr yn dymuno. Mae’r cyfuniad o fodiwlau o Ysgolion ar draws y Brifysgol yn manteisio i’r eithaf ar allu Bangor i archwilio cynllunio iaith a materion cysylltiedig o safbwyntiau theoretig a chymhwysol.
Modiwlau Craidd:
- Y Broses Ymchwil/The Research Process* (40 credyd) neu Ddulliau Ymchwil ym maes Addysg/ Research Methods in Education (30 credyd) * a Dulliau Meintiol/ Quantitative Methods (10 credyd)
- Cynllunio Ieithyddol / Language Planning (20 credyd)
- Traethawd Hir / Dissertation Module (60 credyd)
Modiwlau Dewisol:
- Agweddau ar Ddwyieithrwydd (20 credyd)
- Dysgu yn y Gweithle / Work Based Learning* (20 credyd)
- Hanes y Gymraeg (20 credyd)
- Hawliau Ieithyddol (20 credyd)
- Hawliau Dynol ac Amrywiaeth Gymdeithasol/ Diversity and Human Rights (20 credyd) *
- Rheolaeth yn y Sector Cyhoeddus / Public Sector Management* (20 credyd)
- Y Gyfraith a Datganoli yng Nghymru ac Ewrop/ Law & Devolution in Wales & Europe (20 credyd)*
- Materion Cyfoes ym Maes Dwyieithrwydd / Current Issues in Bilingualism* (20 credyd)
* modiwl dwyieithog
Ariannu
Mae’r ysgol yn cynnig bwrsariaethau amrywiol y flwyddyn i fyfyrwyr tuag at ffioedd dysgu'r MA Polisi a Chynllunio Ieithyddol. Yn ogystal, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig bwrsariaethau amrywiol i fyfyrwyr sy’n astudio llawn amser. Mae’n ofynnol i fyfyrwyr ddilyn y cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg, cyn belled a bo hynny’n bosib. Dyfernir y bwrsariaethau fel gostyngiad ar ffioedd y cwrs.
Gofynion Mynediad
Fel rheol, gradd gyntaf 2.1 neu uwch mewn maes perthnasol a/neu brofiad proffesiynol perthnasol gyda thystiolaeth o astudiaeth ddiweddar. Caiff ymgeiswyr gyfweliad.
Gyrfaoedd
Mae’r rhaglen yn paratoi myfyrwyr i weithio mewn amrywiaeth o swyddi – yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector – yn cynnwys swyddogion iaith, datblygu polisi, rheolwyr, marchnata. Mae’r rhaglen hefyd yn paratoi’r myfyrwyr ar gyfer astudiaeth ar lefel ddoethurol ym maes eang cynllunio iaith. Yn ogystal, mae’r rhaglen yn addas iawn i ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio’n barod ym maes cynllunio ieithyddol ond sydd am gymhwyso fframwaith theoretig a chyd-destun rhyngwladol i’w gwaith dyddiol.