Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae’r diwydiannau creadigol yn gwneud cyfraniad pwysig at dwf economaidd ar draws y byd, ac maent yn gyfrifol am oddeutu 7% o'r cynnyrch mewnwladol crynswth yn Ewrop, dros 11% yn yr Unol Daleithiau a rhwng 17 ac 20% yng ngweddill y byd. Mae’r twf aruthrol hwn yn golygu bod cyfleoedd rhagorol i unigolion gyda’r sgiliau a’r cefndir angenrheidiol i weithio fel swyddogion gweithredol yn y sector. Bydd y radd MSc Rheoli'r Cyfryngau Rhyngwladol yn rhoi datblygiad deallusol a hyfforddiant i chi ddatblygu gyrfa fel uwch reolwr yn y maes hwn.
Ar y radd hon byddwch yn astudio pynciau fel Rheolaeth Strategol, Strategaeth Farchnata, Cyllid i Reolwyr, Sefydliadau a Phobl, Eiddo Deallusol, Cyfraith Gorfforaethol Gymharol, Cyfraith Lafur, Cyfraith Ryngwladol, Dulliau Ymchwil a Diwydiannau Creadigol. Byddwch hefyd yn llunio traethawd hir yn canolbwyntio ar y cyfryngau gyda'r bwriad o ymchwilio i theori ac ymarfer yn yr economïau creadigol yn lleol a/neu'n fyd-eang.
Hyd y Cwrs
Blwyddyn llawn-amser neu ddwy flynedd rhan-amser
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Traethawd hir Meistr - Mae’r traethawd hir yn rhoi cyfle i chi weithio gyda goruchwyliwr arbenigol i gynhyrchu darn o waith ysgrifenedig estynedig. Bydd rhaid i’r gwaith fynd trwy nifer o gamau a bydd y goruchwyliwr yn eich cefnogi i adolygu eich gwaith yn effeithiol. Yn ogystal â datblygu sgiliau ar lefel uchel o ran ymchwil a chyflwyno, bydd myfyrwyr hefyd yn datblygu sgiliau pwysig o ran hunan-ddisgyblaeth.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Rheoli’r Cyfryngau Rhyngwladol.
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Gradd anrhydedd 2.ii dda mewn pwnc perthnasol neu brofiad cyfatebol mewn diwydiant. Sgôr IELTS o 6.0 (dim cydran yn is 5.5), neu gyfwerth, os nad Saesneg neu Gymraeg yw eich iaith gyntaf.
Gyrfaoedd
Trwy ei amrywiaeth unigryw o fodiwlau mewn diwydiannau creadigol, busnes a'r gyfraith, mae'r radd MSc alwedigaethol ei natur hon yn eich paratoi ar gyfer gyrfa fel uwch reolwr yn yr economïau creadigol. Bydd y rhaglen gyfan hefyd yn eich paratoi ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig ar lefel PhD neu MPhil. Rydym yn ceisio rhoi myfyrwyr mewn cysylltiad â chyrff perthnasol yn y diwydiant a threfnu amrywiaeth o weithdai a chystadlaethau proffesiynol, e.e. trwy'r cynllun Menter trwy Ddylunio.
Mae cyn-raddedigion wedi sicrhau swyddi mewn amrywiaeth o ddiwydiannau creadigol (a chysylltiedig), gan gynnwys darlledu a gwneud ffilmiau, hysbysebu/cysylltiadau cyhoeddus, datblygu gemau a thwristiaeth.