Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae’r diwydiannau creadigol yn gwneud cyfraniad pwysig at dwf economaidd ar draws y byd, ac maent yn gyfrifol am oddeutu 7% o'r cynnyrch mewnwladol crynswth yn Ewrop, dros 11% yn yr Unol Daleithiau a rhwng 17 ac 20% yng ngweddill y byd. Mae’r twf aruthrol hwn yn golygu bod cyfleoedd rhagorol i unigolion gyda’r sgiliau a’r cefndir angenrheidiol i weithio fel swyddogion gweithredol yn y sector. Bydd y radd MSc Rheoli'r Cyfryngau Rhyngwladol yn rhoi datblygiad deallusol a hyfforddiant i chi ddatblygu gyrfa fel uwch reolwr yn y maes hwn.
Ar y radd hon byddwch yn astudio pynciau fel Rheolaeth Strategol, Strategaeth Farchnata, Cyllid i Reolwyr, Sefydliadau a Phobl, Eiddo Deallusol, Cyfraith Gorfforaethol Gymharol, Cyfraith Lafur, Cyfraith Ryngwladol, Dulliau Ymchwil a Diwydiannau Creadigol. Byddwch hefyd yn llunio traethawd hir yn canolbwyntio ar y cyfryngau gyda'r bwriad o ymchwilio i theori ac ymarfer yn yr economïau creadigol yn lleol a/neu'n fyd-eang.
Hyd y Cwrs
Blwyddyn llawn-amser neu ddwy flynedd rhan-amser