Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r cwrs hwn yn rhoi gwybodaeth a sgiliau ar lefel ôl-raddedig i chi ym meysydd rhyngddisgyblaethol troseddeg a'r gyfraith. Mae'n adeiladu ar sgiliau a gwybodaeth droseddegol a chyfreithiol er mwyn rhoi hyfforddiant arbenigol mewn troseddeg, cyfiawnder troseddol ac ymchwil i'r gyfraith. Byddwch yn datblygu gwedd ryngwladol ar drosedd, cyfiawnder a’r gyfraith trwy ddulliau ymdrin cenedlaethol a thraws-genedlaethol ac astudiaethau achos ar gymdeithasau eraill, yn ogystal ag astudio materion o bwys ym maes troseddeg a chyfraith gyfoes. Byddwch hefyd yn meithrin ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy.
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Y Gyfraith a Throseddeg LLM.
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Rydym yn derbyn ceisiadau gan raddedigion Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, LLB (Anrhydedd Sengl a Chyd-anrhydedd) a phynciau cysylltiedig fel Gwleidyddiaeth neu'r Gwyddorau Cymdeithas. Fel rheol, rydym yn gofyn am radd ail ddosbarth uwch (neu gyfwerth), ond bydd ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â gradd ail ddosbarth is a chymwysterau proffesiynol a/neu brofiad priodol hefyd yn cael eu hystyried. Yn gyffredinol, caiff ymgeiswyr eu dewis ar sail eu rhinweddau unigol. Caiff profiad gwaith a ffactorau eraill hefyd eu hystyried.
Fel rheol, mae’n ofynnol i fyfyrwyr rhyngwladol gyflwyno tystiolaeth o fedrusrwydd yn y Saesneg.