Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Yn achos y myfyriwr anarbenigol, mae'r LLM cyffredinol hwn yn caniatáu i chi ddethol a dewis modiwlau o'r cynlluniau arbenigol. Mae'r rhaglen yn cynnwys modiwl gorfodol mewn Dulliau Ymchwil Gyfreithiol ynghyd â modiwlau hyfforddedig, a ddewisir o'r rhestr gyferbyn. Gall y traethawd hir fod ar unrhyw bwnc cyfreithiol ar yr amod ei fod yn cael ei gymeradwyo gan Ysgol y Gyfraith.
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Y Gyfraith.
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Rydym yn derbyn ceisiadau gan raddedigion LLB a disgyblaethau eraill. Yn achos graddedigion LLB, rydym fel rheol yn gofyn am o leiaf radd ail ddosbarth is o brifysgol a gymeradwyir. Bydd ceisiadau gan rai â graddau mewn disgyblaethau nad ydynt yn perthyn yn cael eu hystyried fesul achos. Ar y llaw arall, gellir eich derbyn os oes gennych gymhwyster proffesiynol addas neu brofiad ymarferol perthnasol.
Yn gyffredinol, caiff ymgeiswyr eu dewis ar sail eu rhinweddau unigol. Caiff profiad gwaith a ffactorau eraill hefyd eu hystyried.
Fel rheol, mae’n ofynnol i fyfyrwyr rhyngwladol gyflwyno tystiolaeth o fedrusrwydd yn y Saesneg.