Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Datblygwyd y rhaglen i wella gwybodaeth broffesiynol gweithwyr proffesiynol iechyd cysylltiedig sydd â diddordeb mewn gwneud gwaith ymarferydd clinigol uwch. Y nod yw datblygu ôl-raddedigion annibynnol sydd â gwybodaeth a sgiliau proffesiynol uwch a all gyfrannu at foderneiddio'r GIG newydd a sefydliadau eraill yn y DU.
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Ymarfer Clinigol Uwch (Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Sylwch: Dim ond gweithwyr proffesiynol cymwys sydd wedi cofrestru gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) yn y DU a all cael eu derbyn i'r cwrs hwn. Mae mynediad i'r rhaglen hon yn gofyn am radd gyntaf dda mewn pwnc perthnasol gan sefydliad cydnabyddedig. Bydd gweithwyr proffesiynol sydd â chymwysterau ac eithrio gradd yn cael eu hystyried ar sail unigol gan yr ysgol.
Gyrfaoedd
Datblygwyd y cwrs hwn mewn cydweithrediad â sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU ac mae'n cynnwys cymwyseddau a asesir yn yr amgylchedd clinigol. Cynlluniwyd y cwrs ar gyfer gweithwyr proffesiynol iechyd cysylltiedig sy'n dymuno astudio ar lefel uwch i gynyddu eu gwybodaeth, sgiliau a'u priodoleddau fel y gallant gyfrannu at heriau iechyd a gofal cymdeithasol yr oes sydd ohoni.