Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae’r moderneiddio cyson ar wasanaethau iechyd byd-eang a'r pwyslais parhaus ar ymestyn swyddogaethau yn golygu ei bod yn ofynnol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol fod yn ymarferwyr hyblyg, galluog. Mae'n rhaid iddynt allu ymdopi â newid a defnyddio sgiliau gwneud-penderfyniadau cymhleth wrth ddefnyddio sylfaen wybodaeth eang ar gyfer ymarfer clinigol. Cynlluniwyd y cwrs hwn ar gyfer nyrsys rhyngwladol neu weithwyr mewn proffesiynau perthynol i iechyd sy'n gweithio mewn amgylchedd glinigol ar hyn o bryd ac sy'n dymuno astudio ar lefel uwch ac ymateb i'r newidiadau hyn. Nid yw'r cwrs hwn yn addas ar gyfer nyrsys rhyngwladol neu weithwyr mewn proffesiynau perthynol i iechyd gyda llai na 3 blynedd o brofiad o weithio yn broffesiynol mewn amgylchedd glinigol.
Nod y cwrs yw datblygu eich gwybodaeth, sgiliau a phriodoleddau proffesiynol a chlinigol er mwyn i chi allu cyfrannu at heriau gofal iechyd a chymdeithasol cyfoes eich mamwlad. Mae'r cwrs wedi cael ei ddatblygu i wella'ch sgiliau ymchwil cymhwysol yn ogystal â'ch gwybodaeth a'ch sgiliau clinigol proffesiynol. Bydd eich gwybodaeth a'ch sgiliau newydd yn eich galluogi i ddeall ac ymateb i'r prosesau pathoffisiolegol, seicolegol a chymdeithasol sy'n llywio profiad ein cleifion, cleientiaid a chymunedau o salwch, iechyd a chlefyd.
Beth mae'r rhaglen hon yn ei gynnig?
Bydd y rhaglen hon yn hwyluso eich datblygiad personol a phroffesiynol trwy gynnig cyfleoedd i ddatblygu:
- Sgiliau clinigol gwell sy'n ddeniadol i gyflogwyr mewn ystod o amgylcheddau a swyddogaethau clinigol
- Gwybodaeth a sgiliau i wella'ch rhinweddau arweinyddiaeth
- Dealltwriaeth o weithgarwch ymchwil a defnyddio gwahanol ddulliau ymchwil yn eich maes arbenigedd neu ddiddordeb
- Sgiliau datrys problemau lefel uwch gan ddefnyddio dadansoddiad beirniadol a mathau priodol o dystiolaeth neu theori ac adfyfyrio ar ymarfer
- Eich sgiliau academaidd trwy gyfrwng addysg lefel Meistr eang
- Gwybodaeth am heriau iechyd byd-eang cyfoes fel salwch cronig cynyddol
- Rhwydweithiau gyda nyrsys sydd wedi'u cofrestru yn y Deyrnas Unedig, gweithwyr mewn proffesiynau perthynol i iechyd ac academyddion i ddatblygu eich gwybodaeth am y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) a systemau iechyd y Deyrnas Unedig gan gynnwys gofal cychwynnol (cymunedol) a gofal llym
Gall myfyrwyr sy'n dymuno gwneud hynny adael y rhaglen ar ôl ennill Tystysgrif Ôl-radd neu Ddiploma Ôl-radd os nad ydynt yn dymuno parhau â'r MSc llawn.
Gofynion Mynediad
Dylech feddu ar gofrestriad gofal iechyd neu gyfatebol yn eich mamwlad, (nyrsio neu broffesiynau perthynol i iechyd); 3 blynedd o brofiad mewn ymarfer clinigol gyda gradd mewn dosbarth sy'n cyfateb i 2(ii) neu uwch.
I gael mynediad i'r Meistr estynedig, gwelwch yma; i gael mynediad uniongyrchol i'r rhaglen hon, dylech hefyd feddu ar IELTS, lleiafswm o 6.5 heb yr un sgôr yn llai na 6.0.
Caiff pob cais anarferol ei adolygu gan Gyfarwyddwr y Cwrs.