Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae cleifion yn disgwyl gwasanaethau gofal lliniarol o'r ansawdd uchaf, sydd wedi eu cydlynu'n dda lle bynnag y maen nhw'n dewis derbyn y gofal h.y. yn yr ysbyty, gartref, cartref gofal neu hosbis. Er mwyn cefnogi a datblygu staff i ddarparu gofal lliniarol rhagorol, datblygwyd y rhaglen hon mewn partneriaeth â Hosbis Dewi Sant, Llandudno, gyda staff arbenigol a all rannu eu profiadau a'u gwybodaeth ym maes gofal lliniarol.
Mae'r rhaglen hon yn adeiladu ar safbwyntiau damcaniaethol a thystiolaeth ymchwil presennol sy'n sail i ymarfer iechyd a gofal cymdeithasol cymhwysol ym maes gofal lliniarol a diwedd oes. Mae'r rhaglen yn edrych yn feirniadol ar theori, ymarfer a pholisi cyfredol er mwyn datblygu dulliau priodol o ddarparu gofal lliniarol a hynny o safbwynt arbenigol ac o safbwynt cyffredinol. Bydd yn cynnwys dulliau cyfoes o ddarparu gofal lliniarol wedi'u seilio ar ymarfer gwirioneddol sy’n cyd-fynd â realiti.
Cyfleoedd Ymchwil
Mae gan yr academyddion sy'n ymwneud â'r cwrs hwn gysylltiadau helaeth â chyrff a chwmnïau allanol a'r trydydd sector, a defnyddir y rheiny'n llawn i sicrhau bod y modiwlau'n berthnasol i'r gwaith modern a'r amgylchedd ymchwil y bydd y graddedigion yn rhan ohono. Maent i gyd hefyd yn ymarferwyr nyrsio profiadol ac yn ymchwilwyr ym maes gwyddorau gofal iechyd sy'n cadw mewn cysylltiad ag ymddiriedolaeth leol y GIG gan sicrhau bod ymarfer clinigol cyfoes wedi ei ymgorffori yn rhan o'r rhaglen.
Hosbis Dewi Sant
Mae Hosbis Dewi Sant a Phrifysgol Bangor wedi cyhoeddi partneriaeth i wella addysg gofal lliniarol i bobl gogledd orllewin Cymru. Bydd y berthynas hon yn helpu i ddarparu'r gofal lliniarol gorau posibl drwy ddefnyddio'r ymchwil ddiweddaraf i hyfforddi staff a myfyrwyr a helpu i rannu gwybodaeth ac arbenigedd ar draws y ddau sefydliad.
Un o'r prif ddatblygiadau yw swydd newydd 'Darlithyddiaeth Hosbis Dewi Sant mewn Gofal Lliniarol a Diwedd Oes'. Bydd hyn yn helpu i hwyluso, cefnogi a chryfhau hyfforddiant ac addysg gofal lliniarol ar gyfer nyrsys hosbis, nyrsys dan hyfforddiant a'r gweithlu gofal iechyd cyffredinol.
Gofynion Mynediad
Gradd mewn pwnc perthnasol gan sefydliad cydnabyddedig. Pynciau gradd sy'n addas ar gyfer pob cwrs: Nyrsio, Bydwreigiaeth, Therapi Galwedigaethol, Ffisiotherapi, Meddygaeth/Deintyddiaeth, Seicoleg, Radiograffeg, Parafeddygon.
Safon iaith Saesneg - sgôr IELTS o 6 heb unrhyw elfen unigol yn is na 5.5 (neu gymhwyster cyfatebol). Gofynnwch am gyngor oherwydd gall eich gradd Baglor neu ddiploma fod yn ddigonol i fodloni'r gofyniad hwn.
Bydd pob cais yn cael ei adolygu ar sail unigol. Bydd gweithwyr proffesiynol sydd â chymwysterau ac eithrio gradd yn cael eu hystyried ar sail unigol gan yr ysgol.
Gyrfaoedd
Mae addysg a dysgu gydol oes yn allweddol i ddarparu gweithlu sydd â'r sgiliau, yr wybodaeth a'r nodweddion cywir i gefnogi’r gwaith o ddarparu gofal rhagorol i gleifion. Bydd y rhaglen ôl-radd hon yn darparu ymarferwyr gofal iechyd i ddarparu gwasanaethau sy'n blaenoriaethu gofynion gofal lliniarol cleifion a'u teuluoedd. Bydd ymarferwyr sy'n cwblhau'r rhaglen hon yn gadael gyda gwell sgiliau a hyder, a bydd eu cyflogadwyedd a'u cyfleoedd gyrfa yn llawer gwell o fewn y maes ymarfer arbenigol a heriol hwn.
Bydd y rhaglen yn galluogi i'r unigolyn ddatblygu sgiliau dysgu gydol oes megis meddwl yn feirniadol, datrys problemau a defnyddio ymarfer ar sail tystiolaeth i wella sgiliau proffesiynol ac academaidd, a bydd hynny'n datblygu eu sgiliau trosglwyddadwy ac yn gwella cyflogadwyedd y gweithiwr proffesiynol cofrestredig yn gyffredinol.