Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Nod y rhaglen hon yw darparu fframwaith academaidd cadarn i unigolion sy'n hyfforddi i fod yn ymarferwyr uwch mewn meddygaeth awyr. Mae'r cwrs yn cynnwys gofal cyn-ysbyty ac adfer, gan gynnwys rheoli cleifion difrifol wael sydd angen trosglwyddiad lefel 3 rhwng ysbytai. Bwriedir y cwrs ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol profiadol sy'n dymuno ffurfioli a datblygu eu hymarfer, a bydd gofyn i ddysgwyr ddatblygu o fewn lleoliadau ymarfer credadwy. Bwriedir i'r cwrs fod yn heriol, a bydd gofyn i ddysgwyr ddangos hyfedredd mewn asesiad clinigol wedi'i dargedu, diagnosteg gyflym, therapiwteg a rheolaeth glinigol yn yr amgylchedd cyn-ysbyty.
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Ymarfer HEMS Uwch (dysgu o bell).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Mae angen gradd 2:1 neu ddosbarth cyntaf. Os oes gennych radd 2.ii, bydd eich addasrwydd yn seiliedig ar eich datganiad personol a'ch geirda. Bydd angen i bob ymgeisydd ddarparu: geirdaon a datganiad personol cryf ac o leiaf un o'r canlynol (mae llythyr cefnogaeth y cyflogwr yn debygol o gyflawni un o'r meini prawf isod):
- Tystiolaeth y bydd gennych fynediad at leoliadau clinigol i gwblhau elfennau craidd y cwrs
- Cadarnhad gan ysbyty (e.e. contract er anrhydedd y Bwrdd Iechyd, llythyr gan Glinigwr Arweiniol Adrannol) y rhoddir caniatâd i'r myfyriwr fynd i theatrau/ICU i gwblhau elfennau gofal critigol allweddol o'r rhaglen
NEU
- Cadarnhad gan wasanaeth ambiwlans awyr y bydd gan y myfyriwr fynediad at leoliad clinigol am ddigon o amser i gwblhau elfennau cyn-ysbyty allweddol y rhaglen.