Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Pwrpas y modiwl hwn yw datblygu gofynion academaidd a chlinigol y nyrs neu weithiwr proffesiynol perthynol i iechyd arall sy'n gweithio naill ai mewn Adran Achosion Brys, Uned Mân Anafiadau neu mewn amgylchedd cyn-ysbyty arall. Bydd y llwybr hwn yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau graddedig, dysgu gydol oes megis meddwl yn feirniadol, datrys problemau a defnyddio ymarfer ar sail tystiolaeth i wella sgiliau proffesiynol ac academaidd, a bydd hynny'n datblygu eu sgiliau trosglwyddadwy ac yn gwella eu cyflogadwyedd.
Mae'r llwybr wedi ei gynllunio a'i seilio ar ddogfen cymwyseddau’r Coleg Brenhinol Gofal Brys.
Gofynion Mynediad
- Wedi cofrestru gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth/Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal a thystiolaeth o gyflogaeth mewn uned mân anafiadau neu leoliad cyn-ysbyty
- Gofynnir am IELTS 6.0 (heb unrhyw elfen dan 5.5)
Caiff myfyrwyr eu derbyn i'r rhaglen drwy'r flwyddyn, felly rydym yn eich annog i gyflwyno cais yn gynnar. Gwneir ceisiadau ar system ymgeisio ar-lein Bangor.
Myfyrwyr Rhyngwladol: Gan fod y llwybr hwn yn un rhan amser ac yn gofyn bod ymgeiswyr wedi cofrestru ar hyn o bryd gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth/Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal a chyda mynediad i uned mân anafiadau neu amgylchedd cyn-ysbyty, nid yw'r llwybr hwn yn addas i'r farchnad ryngwladol.