Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r cwrs hwn yn eich galluogi i gyfuno ymarfer, gwaith beirniadol a chreadigol. Byddwch yn meithrin gwybodaeth a sgiliau uwch mewn cynhyrchu digidol, sgriptio, cyfarwyddo a datblygu eich dealltwriaeth o ffilm, delwedd symudol a diwylliant ffilm ehangach. Byddwch yn dadansoddi ac yn myfyrio ar ffilmiau a rhaglenni dogfen. Bydd dysgu seiliedig ar ymarfer wedi'i fframio gan astudio cysyniadau ffilm ac arferion diwydiannol cyfredol yn eich annog i ddod yn ymarferwyr creadigol a beirniadol gyda sgiliau clyweled cadarn iawn - sgiliau cyflogadwyedd gwerthfawr ar gyfer sector y diwydiannau creadigol a’r cyfryngau.
Os ydych wastad wedi bod eisiau troi'r ffilm honno yn eich pen yn realiti, neu ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o sut mae ffilmiau'n adrodd ein straeon, dyma'r radd i chi. Bydd y cwrs cyffrous hwn yn darparu'r holl offer a gwybodaeth y bydd eu hangen arnoch i wneud proffesiwn o'ch angerdd er mwyn creu gyrfa ym myd ffilmiau.
Bydd ein gradd Ffilm yn darparu sylfaen ddamcaniaethol a dealltwriaeth hanesyddol o ddiwylliant gweledol, yn ogystal â rhoi ystod eang o sgiliau cynhyrchu i chi mewn gwahanol feysydd o'r cyfryngau, gan gynnwys gwneud ffilmiau dogfennol, ysgrifennu ar gyfer y sgrin a chynhyrchu ffilmiau byr.
Bydd y cwrs hwn hefyd yn rhoi sylfaen gadarn i chi mewn sgiliau technegol ac ymarferol sy'n ofynnol i'ch gwneud yn weithiwr proffesiynol llwyddiannus yn y meysydd hyn.
Mae gan y darlithwyr sy’n addysgu ar y radd Astudiaethau Ffilm ddiddordebau amrywiol gan gynnwys Sinema America, ffilmiau Prydain ac Ewrop, rhywedd, y corff a ffilm, ffilm a hanes, technoleg ddigidol a ffilm, ysgrifennu ar gyfer y sgrin, gwneud ffilmiau, y cyfryngau a ffilm yng Nghymru, actio a pherfformio, iaith a ffilm, blogio a phodledu, gemau cyfrifiadurol a ffilm, sêr ffilm a ffilm ar y teledu. Mae llawer o aelodau staff yn yr Ysgol yn ymarferwyr ac yn ymgynghorwyr yn eu meysydd.
Mae'r ysgol hefyd yn gartref i gymuned ddeinamig a bywiog o weithwyr proffesiynol a myfyrwyr sydd eisiau gwneud ac astudio ffilmiau. Yn swatio mewn lleoliad syfrdanol rhwng Parc Cenedlaethol Eryri a Môr Iwerddon, mae lleoliad Bangor wedi dod â HBO, Netflix, y BBC, S4C a llu o gwmnïau ffilm mawr i saethu yma. Mae cynyrchiadau diweddar yn cynnwys Watchmen yng Nghastell Penrhyn a The Crown yng Nghastell Caernarfon.
Cynhelir amrywiaeth o gynadleddau, fideo gynadleddau a digwyddiadau'r Diwydiannau Creadigol ym Mangor. Daw awduron creadigol, gwneuthurwyr ffilmiau, newyddiadurwyr, dylunwyr, dramodwyr, gwneuthurwyr y cyfryngau newydd a mwy i ymweld yn rheolaidd.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Fframwaith gradd hyblyg sy’n cydbwyso ehangder y pwnc gyda chyfleoedd i arbenigo mewn hanes ffilm, theori, sgriptio, cerddoriaeth ffilm neu gynhyrchu ffilmiau.
- Profiad dysgu deinamig, creadigol a phroffesiynol - gweithio'n agos gydag ysgolheigion blaenllaw ac ymarferwyr proffesiynol ac ymgynghorwyr y diwydiant.
- Cyfleusterau ardderchog, yn cynnwys canolfan gyfryngau sydd â’r holl offer priodol, gydag ystafelloedd golygu, a’r offer creu ffilmiau digidol 4K diweddaraf.
- Cyfleoedd i gael profiad ymarferol o helpu i drefnu digwyddiadau, gan gynnwys dangosiadau, gwyliau ffilm a digwyddiadau arbennig.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Mae astudiaethau ffilm ym Mangor yn unigryw yn yr ystyr ei fod yn integreiddio’n agos ddulliau academaidd a damcaniaethol gydag ymarfer creadigol ymarferol, gan roi cyfle i fyfyrwyr yn yr Ysgol ar bob lefel gyfuno astudio'r maes o'u dewis â chanlyniadau sy'n seiliedig ar ymarfer mewn cynhyrchu ar gyfer ffilm a'r cyfryngau / cyfryngau digidol. Mae Astudiaethau Ffilm ym Mangor yn cynnig cydbwysedd rhwng tasgau ymarferol a dadansoddol, felly yn ogystal â darlithoedd, seminarau a thraethodau, bydd modiwlau ymarferol yn rhoi cyfle i chi fynd allan o'r ystafell ddosbarth ac i'r maes.
Nod y cwrs hwn yw rhoi i chi’r hyder, y sgiliau beirniadol, y craffter strategol, y gallu i addasu a'r potensial i ffynnu mewn ystod o amgylcheddau gwaith yn y cyfryngau, ynghyd â'r cyfle i gyflawni amrywiaeth eang o dasgau creadigol ac adeiladu portffolio cynhyrchu eang.
Mae modiwlau Ymarfer y Cyfryngau yn canolbwyntio ar dri maes allweddol: cynhyrchu yn y stiwdio, ffilmio gyda chamera sengl a golygu, a chynhyrchu i’r radio. Caiff modiwlau ymarferol eu hasesu ar y cynnyrch ymarferol ac ar allu'r unigolyn i adfyfyrio'n feirniadol ar eu hymarfer. Asesir modiwlau ar theori ffilm, ffilm a diwylliant, diwylliant gweledol, dadansoddi ffilm a rhaglenni dogfen trwy arholiadau ac aseiniadau ac yn aml maent hefyd yn cynnig cyfle i gyflwyno gwaith ymarferol fel rhan o'r asesu.
Wrth i chi fynd trwy'r radd, caiff llawer o'r gwaith astudio ei wneud mewn grwpiau dysgu bach gyda phwyslais ar ddysgu sgiliau gweithio grŵp a'r gallu i gyflawni darn o waith eich hun o'r syniad dechreuol i’w gwblhau.
Bydd y sgiliau y byddwch yn eu dysgu ar y modiwl hwn yn rhoi'r hyder a'r hunanddibyniaeth i chi lwyddo mewn maes cystadleuol.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Astudiaethau Ffilm a Chynhyrchu BA (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
- Gwasanaeth benthyciadau helaeth ar gyfer offer fel cyfarpar recordio digidol, camerâu fideo, camerâu lluniau llonydd a mwy.
- Stiwdio radio â chyfarpar proffesiynol.
- Ystafelloedd golygu sain gydag Adobe Audition.
- Ystafelloedd golygu fideo digidol gyda Final Cut Pro a Final Cut Express ar gyfrifiaduron Apple Mac.
- Awditoria.
- Pontio, canolfan y celfyddydau ac arloesi, sy'n cynnwys sinema 200 sedd gyda system sain amgylchynol Dolby.
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 96 - 128 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A: Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: MMM- DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: MMM - DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080): ystyrir fesul achos
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: derbynnir
- Access: Pasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig: Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylion yma.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.
Gyrfaoedd
Gall astudio ffilm a theatr ym Mangor fod yn llwyfan i gamu oddi arno i yrfa wych. Mae gennym gysylltiadau gwych â chwmnïau theatr, papurau newydd a'r diwydiant teledu.
Mae graddedigion ffilm Bangor yn gweithio ym maes datblygu a chynhyrchu ffilmiau a theledu, gyda chredydau fel HBO (cyfres Watchmen), Doctor Dolittle, BBC, SKY, ITV, S4C, Channel 4 a chynyrchiadau annibynnol rhyngwladol. Maent wedi cael cydnabyddiaeth gan BAFTA a'r Royal Television Society ac mae eu gwaith wedi cael ei ddangos mewn gwyliau o'r radd flaenaf, wedi cael cyllid i'w ddatblygu gan y BFI a BAFTA, ac wedi cael ei gyhoeddi mewn teitlau fel DETAILS, The Guardian. Mae lleoliadau i fyfyrwyr wedi cynnwys y BBC, S4C, International Feature Films, Gŵyl Ddogfennol Ryngwladol Cymru, Sheffield Documentary Festival a Gŵyl Ryngwladol Llangollen.
Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i weithio mewn amrywiaeth o swyddogaethau, gan gynnwys: perfformio a'r theatr (ar y llwyfan a gefn llwyfan); newyddiaduraeth brint ac/neu ddarlledu; fel actorion, cyflwynwyr ac wrth gynhyrchu rhaglenni teledu; hysbysebu a marchnata; radio (fel cyflwynwyr yn ogystal â chynhyrchu rhaglenni); cynhyrchu digidol, ar y we a'r cyfryngau newydd; diwydiannau amlgyfryngau; addysgu; darlithio; a chysylltiadau cyhoeddus.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn 'gyda Blwyddyn Sylfaen' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais am Astudiaethau a Chynhyrchu'r Cyfryngau (gyda Blwyddyn Sylfaen).
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.