Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Byddwch yn datblygu dealltwriaeth drylwyr o sut mae plant yn dysgu a'r sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu i fod yn athro/athrawes arloesol a chreadigol a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc. Mae’r lleoliadau ysgol mewn amrywiaeth eang o leoliadau. yn cynnwys ysgolion trefol a gwledig, ysgolion prif ffrwd ac ysgolion arbennig lle cewch gefnogaeth gan staff profiadol i ddysgu sut i baratoi cynlluniau gwaith priodol ac ystyried strategaethau asesu ac adrodd.
Mae'r radd gyffrous hon gyda Statws Athro Cymwysedig (SAC) yn eich hyfforddi fel athro cynradd wedi’ch cymhwyso’n arbennig i addysgu yng Nghymru ac mae'r un mor ddilys i'r rhai sydd eisiau dysgu yng ngweddill y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Mae'n amser gwych i ddod i Gymru i astudio i fod yn athro/athrawes. Mae addysg yng Nghymru yn cychwyn ar oes newydd gyffrous ac yn datblygu cwricwlwm o'r radd flaenaf i ysgolion. Mae Prifysgol Bangor, sydd ag enw rhagorol hirsefydlog am hyfforddi athrawon ac addysg, mewn partneriaeth ag ysgolion o ansawdd uchel yng ngogledd Cymru sydd wedi chwarae rhan bwysig yn cynllunio'r cwrs y byddwch yn ei astudio. Cyflwynir y cwrs hwn fel rhan o'r Bartneriaeth CaBan rhwng ysgolion, Prifysgol Bangor, Consortiwm Rhanbarthol GwE a sefydliad ymchwil CIEREI. Gyda'n gilydd rydym yn rhannu'r nod cyffredin o addysgu'r genhedlaeth nesaf o addysgwyr o safon ryngwladol, a hynny o addysg gychwynnol athrawon hyd at ddysgu proffesiynol parhaus ar hyd eu gyrfa.
Mae gan ein hysgolion partner fentoriaid sydd wedi'u hyfforddi'n dda ac a fydd yn cefnogi eich cynnydd tuag at fod yn athro rhagorol ac arloesol. Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn y brifysgol a staff ysgolion yn cynnig cefnogaeth ragorol a sesiynau dysgu ysgogol yn y brifysgol ac yn yr ysgol ar leoliad. Bydd myfyrwyr ar y cwrs cyfrwng Saesneg hwn yn cael eu gosod mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn unig ac nid oes angen i chi siarad Cymraeg, na byw yng Nghymru, i wneud cais am y cwrs. Serch hynny, fel rhan o'n hymrwymiad i ddwyieithrwydd byddwn yn eich cefnogi yn eich dealltwriaeth o ddiwylliant Cymru ac i ddysgu Cymraeg, p'un a ydych yn ddechreuwr llwyr neu'n defnyddio’r iaith yn rhugl.
Cwrs cyfrwng Saesneg yw hwn. Mae gan y cwrs cyfrwng Cymraeg god UCAS gwahanol.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Rhaglenni a lleoliadau ysgol Saesneg, Cymraeg a dwyieithog.
- Mae lleoliadau amrywiol a chefnogol mewn mwy nag un ystod oedran yn ehangu ar eich opsiynau gyrfaol.
- Mae dealltwriaeth o ddiwylliant a phrofiad o amgylcheddau amlieithog yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan gyflogwyr yng Nghymru, ledled gweddill y Deyrnas Unedig a thu hwnt.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Byddwch yn treulio tua 20 awr yr wythnos mewn darlithoedd a seminarau. Hefyd byddwch angen darllen, paratoi at seminarau, gwneud gwaith cwrs a pharatoi adnoddau dysgu. Caiff yr elfennau a gyflawnir yn y brifysgol eu hasesu drwy ystod eang o waith cwrs. Bydd eich lleoliadau mewn ysgolion yn cael eu monitro gan fentoriaid ysgol a thiwtoriaid cyswllt.
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Byddwch yn dysgu am sut mae plant ifanc yn datblygu a'r damcaniaethau dysgu allweddol. Byddwch hefyd yn ennill gwybodaeth am sut i addysgu ystod eang o ddysgwyr, gan gynnwys y rheiny ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a dysgwyr dwyieithog. Byddwch yn dysgu sgiliau proffesiynol allweddol, fel rheoli ymddygiad. Bydd dysgu am gwricwlwm yr ysgol yn cynyddu eich gwybodaeth pwnc mewn meysydd fel Mathemateg, Llythrennedd, Gwyddoniaeth, Technoleg, y Dyniaethau a'r Celfyddydau. Byddwch yn archwilio pwysigrwydd iechyd a lles i'r holl ddisgyblion ac yn ennill y sgiliau y bydd eu hangen arnoch i gynllunio, creu adnoddau, addysgu ac asesu'n effeithiol ar draws yr ystod gyfan o bynciau.
Profiad Ysgol
Byddwch yn gweithio ochr yn ochr ag athrawon profiadol ac yn cael cefnogaeth ganddynt i ddatblygu fel athro dosbarth/athrawes ddosbarth. Bydd hyn yn eich helpu i ddod yn gyfarwydd â fframwaith y cyfnod sylfaen a'r cwricwlwm cenedlaethol a'r cwricwlwm newydd sy'n cael ei ddatblygu ar gyfer Cymru. Byddwch yn dysgu sut i gynllunio cynlluniau gwaith priodol ac ystyried strategaethau asesu ac adrodd. Ceir o leiaf wyth wythnos o leoliad ysgol bob blwyddyn mewn amrywiaeth eang o leoliadau.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Addysg Gynradd gyda Statws Athro Cymwysedig (Cwrs cyfrwng Saesneg) BA (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
TGAU:
- Gradd C/4 yn yr arholiad TGAU mewn unrhyw un o'r canlynol: Iaith Saesneg, Llenyddiaeth Saesneg, Cymraeg Iaith Gyntaf , Llenyddiaeth Gymraeg;
- Rhaid cael Gradd C/4 yn yr Arholiad TGAU mewn Mathemateg neu Fathemateg-Rhifedd hefyd;
- Gradd C/4 mewn Gwyddoniaeth.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 96- 128 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A: Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: MMM - DDM
- Derbynnir Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru
- Derbynnir Mynediad
- Lefelau-T: ystyrir fesul achos.
- Parodrwydd ac agwedd gadarnhaol o ran ceisio gwella eu defnydd personol o'r Gymraeg.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylion yma.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
Gwybodaeth ychwanegol
Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gael gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y gweithlu plant gan gynnwys gwiriad o'r rhestr gwahardd rhag gweithio'n agos â phlant. Mae'n ofynnol hefyd i ymgeiswyr sydd wedi byw neu weithio y tu allan i'r DU gael gwiriad cofnodion troseddol yn y gwledydd lle buont yn byw.
Dylai ymgeiswyr adfyfyrio'n ofalus ar eu gallu i fodloni trylwyredd a gofynion y proffesiwn. Cyfeiriwch at yr ystyriaethau ar gyfer ymgeiswyr i Raglenni Addysg Gychwynnol Athrawon.
TGAU:
- Gradd C/4 yn yr arholiad TGAU mewn unrhyw un o'r canlynol: Iaith Saesneg, Llenyddiaeth Saesneg, Cymraeg Iaith Gyntaf , Llenyddiaeth Gymraeg;
- Rhaid cael Gradd C/4 yn yr Arholiad TGAU mewn Mathemateg neu Fathemateg-Rhifedd hefyd;
- Gradd C/4 mewn Gwyddoniaeth.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104 - 128 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A: Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM - DDM
- Derbynnir Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru
- Derbynnir Mynediad
- Lefelau-T: ystyrir fesul achos.
- Parodrwydd ac agwedd gadarnhaol o ran ceisio gwella eu defnydd personol o'r Gymraeg.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylion yma.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
Gwybodaeth ychwanegol
Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gael gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y gweithlu plant gan gynnwys gwiriad o'r rhestr gwahardd rhag gweithio'n agos â phlant. Mae'n ofynnol hefyd i ymgeiswyr sydd wedi byw neu weithio y tu allan i'r DU gael gwiriad cofnodion troseddol yn y gwledydd lle buont yn byw.
Dylai ymgeiswyr adfyfyrio'n ofalus ar eu gallu i fodloni trylwyredd a gofynion y proffesiwn. Cyfeiriwch at yr ystyriaethau ar gyfer ymgeiswyr i Raglenni Addysg Gychwynnol Athrawon.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.
Gyrfaoedd
Mae'r radd BA (Anrhydedd) Addysg Gynradd gyda SAC (3-11) yn cael ei chydnabod ar draws Cymru a Lloegr, ac yn aml mae'n gymhwyster trosglwyddadwy* mewn gwledydd eraill i gael mynediad i'r proffesiwn addysgu. Mae'n eich paratoi'n llawn ar gyfer gofynion addysgu yng Nghymru a thu hwnt.
Mae'r rhaglen hon yn eich paratoi ar gyfer ystod eang o swyddi o fewn addysg ac yn datblygu sgiliau arwain a fydd yn hanfodol i chi wrth i'ch gyrfa ddatblygu. Mae corff cynyddol o dystiolaeth bod arweinyddiaeth ysgol yn cael effaith ar ganlyniadau disgyblion, a hynny'n ail yn unig i ddylanwad athrawon yn yr ystafell ddosbarth. Ym mhartneriaeth CaBan mae gennym arbenigedd a phrofiad rhyngwladol o'r theori ac ymchwil ddiweddaraf ar arweinyddiaeth. Mae'r arbenigedd ymchwil sydd gennym yn yr ysgol yn effeithio ar gynnwys y rhaglen hon a'r datblygiadau sylweddol ar draws y rhanbarth ac yn genedlaethol o ran datblygu timau arweinyddiaeth cryf ac effeithiol yn ein hysgolion.
Mae'r rhaglen yn cynnig lleoliadau byr/llawn mewn ysgolion cynradd ac arbennig, canolfannau awyr agored a lleoliadau eraill sy'n gysylltiedig ag addysg, i sicrhau eich bod yn cael profiad ehangach sy'n benodol i'ch diddordebau unigol. Mae'r rhaglen wedi'i chyd-greu, ei darparu a'i hasesu gyda rhwydwaith o ysgolion partneriaeth rhagorol ar draws y rhanbarth gan gynnig set gwych o sgiliau cyfoes i chi a fydd yn amhrisiadwy wrth i chi symud i'ch gyrfa dysgu cynradd.
*Dylai'r rhai sy'n dymuno dysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio gyda Chorff Proffesiynol Athrawon y wlad dan sylw bod Statws Athro Cymwysedig yn cael ei gydnabod yno ac yn drosglwyddadwy.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor (GCB)
Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor yn gwrs ar-lein cynhwysfawr y gallwch ei wneud yn ôl eich cyflymder eich hun, gan fynd â chi trwy'r holl gamau y mae'n rhaid i chi eu cymryd i archwilio, paratoi a gwneud cais am eich gyrfa ddelfrydol.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.