Students learning on Wrexham Campus

Wythnos Groeso: Ysgol Gwyddorau Iechyd - Radiograffeg Ddiagnostig

Dyma amserlen eich Wythnos Groeso, sy'n cynnwys digwyddiadau sy’n ymwneud â’ch Ysgol/Cwrs Academaidd a digwyddiadau canolog sy’n agored i bob myfyriwr.

Sylwch y gall y digwyddiadau newid, felly cadwch lygad am ddiweddariadau neu ychwanegiadau newydd.

Côd lliw eich amserlen

I wneud pethau'n haws, rydym wedi creu côd lliw ar gyfer y digwyddiadau.

Coch= Digwyddiad Gorfodol

Melyn = Digwyddiad a Argymhellir

Llun = Digwyddiad Cymdeithasol

Digwyddiad Gorfodol. Mae pob digwyddiad sydd efo'r bloc coch hwn yn orfodol.

Mae Digwyddiadau Gorfodol yn cynnwys gwybodaeth a gweithdrefnau hanfodol y bydd eu hangen arnoch i lywio eich taith academaidd.

Bloc Melyn. Mae pob digwyddiad sydd wedi ei nodi gyda'r bloc melyn wedi ei argymell i chi ei fynychu

Mae Digwyddiadau a Argymhellir yn cynnig cyfleoedd i gwrdd â chyd-fyfyrwyr a staff y Brifysgol, neu i gael gwybodaeth a chymorth ychwanegol ar wella eich profiad myfyriwr.

Students socialising and having BBQ

Mae Digwyddiadau Cymdeithasol yn ffordd berffaith o wneud ffrindiau, darganfod angerdd newydd, a chreu atgofion yn ystod eich wythnos gyntaf yn y Brifysgol.

Sylwch y bydd myfyrwyr Wrecsam yn mynd ar fws i Fangor ddydd Llun. Bydd y bws yn gadael campws Wrecsam am 8.30yb.

Ar ddydd Gwener - paratoi at ddechrau'ch cwrs

Darllenwch eich llawlyfr rhaglen. Sicrhewch eich bod yn gyfarwydd â sut i gael mynediad at y systemau TG a'u defnyddio. Gweld eich modiwlau ar Blackboard a pharatoi ar gyfer darlithoedd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?