Gellir codi archebion prynu trwy gysylltu ag uned gyllid Ffordd Deiniol a dweud beth mae arnoch ei angen. Anfonwch fanylion y pryniant, ynghyd ag unrhyw ddyfynbrisiau a gawsoch. Dylech gynnwys y gost, y lleoliad danfon yn ogystal â chadarnhad gan ddeiliad y gyllideb eu bod yn cymeradwyo'r pryniant - e.e. e-bost gan eich goruchwyliwr yn cadarnhau eu bod yn awdurdodi’r pryniant o gyfrif eich ffioedd mainc.
Mae'n werth nodi bod trefniadau ffioedd mainc yn amrywio ar gyfer gwahanol fyfyrwyr ôl-radd ymchwil yn dibynnu ar ffynhonnell eich cyllid. Ni fydd gan y rhan fwyaf o fyfyrwyr ôl-radd ymchwil sy’n cael eu cyllido gan Gynghorau Ymchwil, e.e. trwy Bartneriaethau Hyfforddiant Doethurol, ffioedd mainc fel y cyfryw, ond byddant yn gallu defnyddio Grantiau Cefnogi Hyfforddiant Ymchwil – cysylltwch â'ch Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol/Arweinydd y Ganolfan Hyfforddiant Doethurol. Fel arfer bydd gan fyfyrwyr ôl-radd ymchwil sy’n ariannu eu hastudiaethau eu hunain, a myfyrwyr a ariennir trwy ffynonellau eraill ffioedd mainc.
Cysylltwch â chyfrifydd eich ysgol yn y Coleg i ofyn am eich cod cost gan y bydd angen hwn arnoch i wneud pryniannau, a chodi archeb prynu ar gyfer yr eitem(au). Fel arfer bydd eich goruchwyliwr yn gallu cymeradwyo gwariant o'ch ffioedd mainc.
Os oes gennych god S* gan y Coleg (mae hyn yn cynnwys pob myfyriwr sy’n ariannu eu hunain a’r rhai a ariennir gan raglenni NERC Envision, STARS a CDT), cysylltwch â’ch cyfrifydd ysgol i gael gwybod beth yw balans ar eich ffioedd mainc. Adroddir am bob efrydiaeth arall a ariennir trwy grantiau o fewn y Coleg sydd â chodau R*/J* gan staff ôl-ddyfarnu a bydd angen i chi anfon e-bost at cose-postaward@bangor.ac.uk.
Gellir gwneud pryniannau bach a hawlio'n ôl amdano gan ddefnyddio ffurflen hawlio addysgu ac ysgolheictod, ond lle bo modd dylid bob amser brynu drwy uned gyllid Ffordd Deiniol.
Wrth ymweld ag ardaloedd anghysbell lle na ddarperir derbynebau, yna gellir defnyddio llyfrau derbynebau wedi'u rhifo. Gallant ysgrifennu eu derbynebau eu hunain a gofyn i'r derbynnydd eu llofnodi.
Mae blaensymiau ar gael – cysylltwch ag uned gyllid Ffordd Deiniol i drefnu hyn, gan gynnwys eich goruchwyliwr yn yr e-bost fel c.c..
Nac oes. Yn gyntaf, lle bo'n bosibl dylech ddefnyddio'r gost wirioneddol a daloch am yr arian cyfred tramor gan ddefnyddio e.e. derbynebau cerdyn credyd neu gyfriflenni banc. Mae gwefan XE.COM hefyd yn darparu dogfen y gallwch ei phoblogi sydd yn trosi fesul llinell. Os gellir dangos nad yw'r gyfradd gyfnewid wedi amrywio, yna gellir trosi eitemau bychan eu gwerth gyda'i gilydd.
RHESTR LAWN O GANLLAWIAU GWEITHDREFNAU A PHOLISÏAU WEDI'U SAFONI GAN Y TÎM CYLLID
Yn ddelfrydol dylid gwneud hyn trwy uned gyllid Ffordd Deiniol, gan anfon dolen at yr eitem yr hoffech ei phrynu.
Unwaith eto, dylid gwneud hyn drwy uned gyllid Ffordd Deiniol os yn bosibl, os nad yw hynny’n bosibl, dylid hawlio yn defnyddio’r ffurflen Teithio a Chynhaliaeth.
Na allwch. Yn ôl y polisi rhaid defnyddio cwmni Diversity Travel yn y man cyntaf.
CWESTIYNAU CYFFREDIN AM ARCHEBU TEITHIAU BUSNES
Ar hyn o bryd, oherwydd problemau sector cyfan, pan fo archebion teithio yn rhai brys ac os nad yw Diversity yn ymateb i’ch ymholiad, gall unigolion wneud eu trefniadau eu hunain ac archebu trwy’r Uned Gyllid.
a) ydw i'n archebu ac yn hawlio'r costau yn ôl?
b) Rwy'n brin o arian, a allaf gael blaenswm i brynu'r tocynnau, neu hawlio'r costau yn ôl cyn i mi fod wedi mynd i’r gynhadledd?
Mae uned gyllid Ffordd Deiniolyn gallu archebu tocynnau trên. Nid oes blaensymiau ar gael ar gyfer teithio yn y Deyrnas Unedig.