Mae llawer o fyfyrwyr yn wynebu problemau ariannol rhywbryd yn ystod eu cwrs. Y peth pwysig yw gofyn am gymorth a chyngor cyn gynted â phosibl trwy gysylltu â'r Uned Cefnogaeth Ariannol yn y Ganolfan Gweinyddu a Gwasanaethau Myfyrwyr, neu eich Banc.
Efallai y gallwch gael cymorth ychwanegol gan y Brifysgol hefyd ar ôl i chi ddechrau eich cwrs. Mae Cronfa Caledi Bangor yn bodoli i roi cymorth ariannol i fyfyrwyr sy'n wynebu anhawsterau gyda'u costau byw am wahanol resymau. Gall hyn fod oherwydd amgylchiadau personol (e.e.myfyrwyr hyn, neu fyfyrwyr anabl), neu oherwydd eu bod yn wynebu caledi'n annisgwyl. Nid oed raid talu'n ôl unrhyw arian a gewch o'r gronfa hon. Mae manylion ar bwy sy'n gymwys, a sut i wneud cais, ar gael o'r tudalen Cronfa Caledi ar wefan Canolfan Gweinyddu a Gwasanaethau Myfyrwyr.