Mae TARGETconnect Bangor yn ganolfan gyflogaeth ymroddedig ar gyfer myfyrwyr ac mae'n hysbysebu swyddi a chyfleoedd profiad gwaith, gan gynnwys gwaith rhan amser a gwaith achlysurol. Gallwch chwilio a gwneud cais am gyfleoedd, a sefydlu rhybuddion e-bost yn seiliedig ar eich gofynion.
Mae ein Gwasanaeth Cyflogadwyedd yn cyflwyno gweminarau a gweithdai rheolaidd sy'n cynnig gwybodaeth a chyngor ynghylch chwilio am waith rhan-amser/achlysurol, a gwneud cais amdano, yn ogystal â llawer o bynciau eraill - os ydych yn fyfyriwr cyfredol, gallwch ddarganfod mwy ar yr Hwb Cyflogadwyedd.
Gallwch hefyd wneud apwyntiad i siarad â Chynghorydd Cyflogadwyedd os hoffech gael cefnogaeth i wella'ch CV a/neu'ch ceisiadau am swydd.
Mae croeso i chi gysylltu â'r Gwasanaeth: gyrfaoedd@bangor.ac.uk am fwy o wybodaeth.