ARDDANGOS PRIFYSGOL BANGOR YN Y BRIFWYL
Bydd y brifysgol yn teithio i Bontypridd i gymryd rhan yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf o ddydd Sadwrn 3 Awst tan ddydd Sadwrn 10 Awst.
Mae stondin eleni yn babell fawr, a byddwn yn cynnal amrywiaeth eang o weithgareddau, sesiynau, dadleuon, lansiadau a chyflwyniadau ynddi trwy gydol yr wythnos. Byddwn yn cynnal digwyddiadau traddodiadol hefyd, gan gynnwys aduniad y cyn-fyfyrwyr ddydd Mercher 7 Awst, a digwyddiad i ddarpar fyfyrwyr a myfyrwyr cyfredol brynhawn Gwener 9 Awst.
Gallwch weld rhaglen lawn Eisteddfod Genedlaethol Prifysgol Bangor yma.
Bydd yr uchafbwyntiau'n cynnwys:
-
Sesiwn ‘Cartŵn Cymdeithaseg’ galw i fewn gyda Dr Rhian Hodges (Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas) ddydd Sadwrn 3 Awst;
-
Lansio'r 'Tystysgrif Addysg i Raddedigion – Anghenion Dysgu Ychwanegol ar lefel Cynradd', y rhaglen gyntaf o’r math yma yng Nghymru; trafodaeth banel ar fentrau dan arweiniad y gymuned gan Ysgol Busnes Bangor; a lansiad podlediad Ysgol Busnes Bangor a sesiwn bwrdd crwn wedi ei recordio'n fyw dan arweiniad Dr Edward Jones a Darren Morley ddydd Llun 5 Awst;
-
Trafodaeth panel 'Rôl diwylliant a’r celfyddydau yn adfywiad cymunedol y Gymru wledig' dan arweiniad Osian Gwynn (Pontio) ac 'Ydyn ni'n byw mewn cymdeithas oddefgar?' trafodaeth banel dan arweiniad Dr Gareth Evans-Jones (Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas) ddydd Mawrth 6 Awst;
-
I ddathlu 140 o flynyddoedd ers sefydlu’r brifysgol, cyflwyniad gan yr hanesydd a’r dyn busnes Gari Wyn, 'O Borth Penrhyn i'r Coleg ar y Bryn 1884-1925: Y Cymeriadau Mawr'; sesiwn gan Ysgol Feddygol Gogledd Cymru a 'Sut i greu meddygon i Gymru?' gan Dr Nia Jones a'r Athro Angharad Davies; ac aduniad y cyn-fyfyrwyr ddydd Mercher 7 Awst;
-
Sesiwn 'Cyflwyniad i'r Clinig Cyngor Cyfreithiol' gan Lois Nash (Ysgol Hanes, Y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas); prynhawn yn llawn gweithgareddau ac arddangosiadau gan Dr Martyn Kurr, Dr Dei Huws, Claire Carrington a Rhianna Parry (Ysgol Gwyddorau’r Eigion) ddydd Iau 8 Awst;
-
Digwyddiad 'Dathlu Hanner Canmlwyddiant JMJ' dan arweiniad Rhian Tomos (Ysgol Addysg); a’r digwyddiad prynhawn arferol i ddarpar fyfyrwyr a myfyrwyr cyfredol gyda’r band Fleur de Lys, ddydd Gwener 9 Awst;
-
Rhowch gân i ni! Gall cystadleuwyr ac ymwelwyr ymarfer ar ein piano;
-
Trwy gydol yr wythnos, gwahoddir plant i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau difyr, gan gynnwys byrddau lliwio a swigod Bangor;
-
Bydd cwpanau peint amldro gyda brand Prifysgol Bangor, llwyddiant gwirioneddol (a chynaliadwy!) yn Eisteddfod Boduan yn 2023, yn dychwelyd ym Mhontypridd yn 2024!
Fel nodwyd eisoes, yn 2024, bydd Prifysgol Bangor yn nodi 140 mlynedd ers ei sefydlu, gan ddathlu cant a deugain o flynyddoedd o ragoriaeth academaidd, effaith fyd-eang a phrofiadau gwych i fyfyrwyr. Y thema eleni yw dathlu’r gorau o hanes cyfoethog Prifysgol Bangor ac arddangos llwyddiannau’r brifysgol, a bydd yr ysgolion academaidd yn arddangos eu hymchwil a’u gwaith, trwy amrywiol weithgareddau.
Meddai’r Athro Andrew Edwards, Dirprwy Is-ganghellor y Gymraeg, Ymgysylltiad Dinesig a Phartneriaethau Strategol, “Mae presenoldeb y brifysgol ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn un o uchafbwyntiau mwyaf nodedig y calendr blynyddol, a bydd yn wych cael ymweld â Phontypridd. Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn gyfle i ni gynnig blas o’r cyfoeth, creadigrwydd a’r amrywiaeth o waith arloesol sy’n cael ei wneud gan y brifysgol yng nghyd-destun y Gymraeg a dwyieithrwydd yng Nghymru.
Rwy'n falch iawn bod staff a myfyrwyr o bob rhan o’r brifysgol wedi ymateb yn frwd unwaith eto i'r ŵyl gyda rhaglen orlawn ac amrywiol o weithgareddau a digwyddiadau. Mae ein cyfraniad at yr Eisteddfod yn tystio i ansawdd ac amrywiaeth yr arbenigedd sydd gennym ym Mangor, ac yn ddathliad o’n cyfraniad allweddol at dwf yr iaith Gymraeg yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol ac yn economaidd.”
Meddai Gwenan Hine, Ysgrifennydd y Brifysgol, “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at fynd i’r Eisteddfod Genedlaethol, ac arddangos y brifysgol fel rhan o’r ŵyl yn Rhondda Cynon Taf. Os byddwch yn ymweld â'r maes, bydd croeso cynnes yn disgwyl amdanoch, galwch heibio ein stondin i gwrdd â staff, darpar fyfyrwyr a myfyrwyr cyfredol a chyn-fyfyrwyr a chymryd rhan yn ein rhaglen gyffrous o weithgareddau!
Rydym yn ddiolchgar iawn i’r aelodau staff a’r myfyrwyr a fydd yn gweithio trwy gydol yr wythnos i hyrwyddo Prifysgol Bangor. Pob lwc i holl fyfyrwyr a staff Bangor fydd yn perfformio neu’n cystadlu yn yr Eisteddfod!”
Cofiwch dagio'r brifysgol yn eich postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol a defnyddio'r hashnod #EisteddfodBangor2024 gyda diweddariadau ar gystadlaethau a newyddion.
Mae rhagor o fanylion am yr Eisteddfod ar gael yma: https://eisteddfod.cymru/
![Picture of the Eisteddfod Sign](/sites/default/files/styles/3x2_900w/public/2024-07/National-Eisteddfod.jpg?h=f7d9296c&itok=bs7kfWaZ)