Mae rhew y môr yn gwneud i rywun ddychmygu ardaloedd helaeth o dirweddau gwyn a chyffro'r oes archwilio. Mae perygl mordwyo o amgylch y rhew yn parhau i ychwanegu at wefr mordeithiau pegynol, er bod gennym longau dur pwerus erbyn heddiw yn hytrach na llongau pren. Ac eto mae rhew y môr yn gymaint mwy na ffynhonnell ysbrydoliaeth i artistiaid neu her i bobl sy’n chwilio am wefr, mae’n elfen hollbwysig o’r cryosffer ac yn gwneud cyfraniad allweddol at albedo’r blaned. Mae ei ffurfiant a'i ddadmeriad yn rhan annatod o gylchrediad cefnforol byd-eang sy'n ailddosbarthu gwres ar draws y blaned. Mae rhew y môr yn mynd o’r safleoedd ffurfio i ledredau is yn effeithio ar gyllidebau dŵr croyw rhanbarthol mewn ffyrdd cymhleth ac yn cael effaith ar yr hinsawdd nad yw’n hollol hysbys i ni eto. Fel pob rhan arall o'r cryosffer, mae rhew y môr yn gallu newid yn yr hinsawdd, yn anad dim oherwydd bod cyfraddau cynhesu'n agored i fwyhau pegynol.
Mae hyn wedi arwain at un o’r enghreifftiau mwyaf trawiadol o newid yn yr hinsawdd, sef colli rhew y môr yn yr Arctig yn ystod yr haf, tra bod y duedd yn llai amlwg yn rhew y môr yn yr Antarctig. O'r gwahaniaeth mewn cyfnod yn unig, mae'n amlwg bod rhaid i'r cefnfor hylifol fod bron bob amser yn gynhesach na'r rhew solet sy'n arnofio arno, ac felly mae'n ffynhonnell gwres a all achosi i’r rhew ddadmer. Yn y ddau begwn, mae'r ffynhonnell wres hon yn cael ei gynyddu trwy ddyfroedd lledred is cynnes yn dod i lawr tuag at y pegwn oherwydd bod yr halen wedi ei inswleiddio rhag y rhew gan ddyfroedd wyneb pegynol mwy ffres uwchben. Mae hyn yn golygu bod y ddau gefnfor pegynol "wyneb i waered" yn eu strwythur tymheredd o'i gymharu â'r lledredau isel a chanolig lle mae'r tymereddau uchaf i'w cael yn y dyfroedd sydd â heulwen ar yr wyneb. Ar wahân i wres o ledred is, mae unrhyw gefnfor pegynol tywyll yn amsugno mwy o belydrau’r haul na'r rhew gwyn adlewyrchol, ac yn storio'r egni hwn fel gwres a all hefyd gyfrannu at ddadmer oddi tano.
"Byddwn yn edrych ar yr amrywiol ffyrdd y mae prosesau cefnforol, ar draws amrywiaeth o raddfeydd ac mewn rhai ffyrdd annisgwyl, yn rhyddhau gwres tuag at y rhew a sut mae’r rhain wedi newid wrth i rew y môr ddirywio dros y degawdau diwethaf. Byddwn yn cloi trwy ystyried y goblygiadau i’r cefnfor ac i gynhyrchiant sylfaenol yr hinsawdd."
Eigionegydd ffisegol y pegynau yw’r Athro Yueng-Djern Lenn, a'i diddordeb yw deall y prosesau ffisegol sy'n rhan annatod o'r gwrth-droi cefnforol sy'n effeithio ar yr hinsawdd yng nghefnforoedd y pegynau. Roedd yr ymchwil a wnaeth yr Athro Yueng-Djern Lenn ar Gefnfor y De'n canolbwyntio ar fflycsau gwres a momentwm trolifau Drake Passage, haen arwyneb Ekman sy'n ffurfio rhan uchaf y cylchrediad gwrthdroadol, a'r cymysgu diapysnal sy'n sbarduno'r trawsnewid ym màs y dŵr yn y thermoclein ar lethr cyfandirol yr Antarctig. Mae ei hymchwil ar yr Arctig yn canolbwyntio ar drawsnewidiadau ym màs y dŵr sy'n digwydd ym moroedd y silff cyfandirol ac ar hyd llethr cyfandirol yr Arctig sy'n cysylltu'r Arctig â'r cylchrediad gwrthdroadol byd-eang, ac yn fwy diweddar bu'n ymchwilio i rôl gwahanol fecanweithiau cymysgu (h.y. y trylediad dwbl a sbardun y cymysgu tyrfol gan y llanw neu'r gwyntoedd) mewn gwres sy'n fflycsio a phriodweddau eraill dŵr cynnes Môr yr Iwerydd i mewn i haloclein a haen gymysg yr Arctig.
Traddodir y ddarlith hon yn Saesneg.
Bydd lluniaeth ar gael ar ôl y ddarlith.