Cynhadledd Archif Menywod Cymru 2024
Mae’n bleser gennym hyrwyddo Cynhadledd Flynyddol Archif Menywod Cymru, sy’n cael ei chynnal ym Mhrifysgol Bangor eleni.
Mae Archif Menywod Cymru (AMC) wedi rhoi rhaglen gyffrous a diddorol o bapurau gan amrywiaeth o haneswyr profiadol a newydd at ei gilydd. Rydym yn falch iawn y bydd tri chynrychiolydd o Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn cyflwyno papurau:
- Lizzy Walker, 'Menywod yn berchen ar ac yn ddeiliaid tir yng ngogledd-ddwyrain Cymru: Tystiolaeth o brydlesoedd yr 17eg a'r 18fed ganrif', Papur 12.
- Dr Meinir Moncrieffe, ''Rhodd duw yw dynes radlon a gonest a does trysor cyffelyb iddi': Camdriniaeth mud Gwragedd y Bonedd Cymraeg', Papur 15.
- Dr Shaun Evans, 'Boneddigesau, Gweithgaredd Hynafiaethol ac Ymwybyddiaeth Hanesyddol Gymreig yn y 19eg Ganrif', Papur 16.
Bydd cyfle hefyd i glywed am brosiectau diweddaraf AMC - Merched a Chwaraeon a Chymru a Gosod y Record yn Syth (Cipio lleisiau merched yng ngwleidyddiaeth Cymru), a chyhoeddir enillydd Bwrsari Avril Rolph 2024.