Darganfyddwch Dangnefedd drwy Tai Chi yng Gardd Fotaneg Treborth!
Ymunwch â ni am brofiad Tai Chi adfywiol o fewn naws arbennig Gardd Fotaneg Treborth! Mwynhewch distawrwydd yr awyr agored tra’n ymarfer y ddefod hynafol hon a grewyd i wella eich lles corfforol a meddyliol.
Dyddiad: Bob dydd Sadwrn o 21ain Hydref i’r 9fed Rhagfyr
Amser: 10:00 AM - 10:50 AM
Lleoliad: Byddwn ar ochr chwith yr Ardd Dwy-Ddraig Tsieineaidd hudolus yng Gardd Fotaneg Treborth! Anadlwch yn yr awyr iach ac ymagor i harddwch natur wrth i chi ymarfer Tai Chi.
Yn amodol ar y tywydd: Sylwch fod sesiynau Tai Chi yn amodol ar safon y tywydd. Mewn sefyllfa o dywydd anffafriol, efallai caiff y digwyddiad ei ganslo. Cymrwch sylw o’n gwefan neu’r gyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau.
Beth i wisgo: Argymhellir dillad cyfforddus sy'n caniatáu symudiad rhwydd. Cofiwch wisgo esgidiau addas i sicrhau profiad diogel a phleserus.
Parcio: Mae nifer cyfyngedig o lefydd parcio ar gael ger y labordy dysgu. Os mae’r maes parcio'n llawn, mae parcio ychwanegol i’w gael ar y trac athletau gerllaw.
Manteision Tai Chi:
Gwella cytbwysedd a chydsymud
Lleihau straen a phryder
Gwella hyblygrwydd a chryfder
Hybu llesiant cyffredinol
Ymunwch â ni am fore tawel: Mae Tai Chi yn ffordd hyfryd o ddechrau eich diwrnod, a’n meithrin ymdeimlad o lonyddwch ac ymlacio. Does dim angen profiad blaenorol, ac mae croeso i bob oedolyn gymryd rhan. Cwrddwch â ffrindiau newydd, cofleidiwch natur, a chychwynnwch ar daith i well iechyd a meddylgarwch.
Croeso i gyfranogwyr o bob lefel sgìl, a does dim angen archebu lle o flaen llaw.