Data Ansoddol – Egwyddorion Cyfweld – casglu a dadansoddi data
Bydd y sesiwn yn archwilio'r egwyddorion a'r ystyriaethau ymarferol sydd ynghlwm wrth gynllunio a chynnal cyfweliadau ansoddol. Bydd yn canolbwyntio'n bennaf ar ddulliau lled-strwythuredig a thrylwyr o gyfweld ac mae wedi'i anelu at ymchwilwyr ôl-radd sy'n bwriadu cynnal cyfweliadau ansoddol a'r rhai sydd â diddordeb datblygu sgiliau cyfweld ansoddol.
Bydd y gweithdy'n dechrau trwy osod y dull cyfweld o fewn set o gwestiynau ehangach am ymchwil ansoddol cyn troi at ystyriaethau allweddol sy’n ymwneud â'r broses gyfweld. Bydd cyfle hefyd i gyfranogwyr weithio gydag enghreifftiau o ganllawiau testun a thrawsgrifiadau cyfweliadau a’u trafod. Mae'n llai addas i'r rhai sy'n dymuno datblygu sgiliau ansoddol uwch neu'r rhai sy'n dymuno gwybod mwy am ffurfiau naratif anstrwythuredig o gyfweld.