Data Meintiol - Cynllun yr Arolwg - casglu a dadansoddi data
Bydd y sesiwn yn rhoi cipolwg i'r rhai sy'n bresennol sy'n bwriadu defnyddio ymchwil arolwg yn eu hymchwil ôl-radd i gwestiynau ynghylch dylunio arolygon, technegau samplu, a dadansoddi sylfaenol.
Caiff y myfyrwyr eu cyflwyno i ddiben, manteision a chyfyngiadau defnyddio arolygon gan gynnwys cwestiynau gweinyddol (ar-lein, y post, ffôn, neu wyneb yn wyneb), trefn cwestiynau, opsiynau ymateb, ac yn y blaen. Bydd hefyd yn trafod egwyddorion dadansoddi data ac yn cyflwyno technegau dadansoddi sylfaenol.
Mae'r gweithdy wedi'i gynllunio ar gyfer myfyrwyr PhD sy'n bwriadu defnyddio arolygon mewn ymchwil ynglŷn â barn y cyhoedd ac agweddau'r cyhoedd - nid yw wedi'i gynllunio ar gyfer gwneud profion seicometrig nac ymchwil seicolegol uwch.