Dewch i ddathlu pen-blwydd arbennig iawn Neuadd John Morris Jones yn 50 oed rhwng 3:30pm a 7:00pm, dydd Sadwrn, 19 Hydref yng nghanolfan Pontio ym Mangor.
Cewch gyfle i glywed atgofion rhai o gyn-lywyddion y Neuadd a'r Wardeiniaid a mwynhau cerddoriaeth acwstig fyw. Dewch a'ch hen luniau efo chi - mae tîm Archifau'r Brifysgol eisiau creu casgliad o luniau ac atgofion y neuadd Gymraeg swyddogol gyntaf ym Mhrifysgol Bangor a agorwyd yn 1974!
Ac yn arbennig ar gyfer y digwyddiad, mae'r grŵp Angylion Stanli wedi ail-ffurfio ac yn edrych ymlaen at berfformio set acwstig ar y diwrnod a chanu am Carol a Mari Fach!
Amserlen:
4:00pm - 5:00pm: Digwyddiad Panel
5:00pm: Lluniaeth
5:30pm: Perfformiad gan Angylion Stanli
6:00pm: Cyfle i hel atgofion, ysgrifennu atgofion ac edrych ar y lluniau
Darllennwch y darn yma gan BBC Cymru Fyw am y pen-blwydd arbennig: Cymuned glos, llawn sbort': Neuadd JMJ yn dathlu'r 50