Caiff Diwrnod Rhyngwladol y Merched (8 Mawrth) ei ddathlu bob blwyddyn ledled y byd i nodi llwyddiannau merched, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o anghydraddoldebau parhaus rhwng y rhywiau. Mae Prifysgol Bangor, mewn cydweithrediad â Chwaraeon Merched Cymru, yn ymuno â dathliadau 2025 gyda digwyddiad cyffrous yn mynd i’r afael ag Arweinwyr Benywaidd mewn Chwaraeon.
Bydd y digwyddiad yn cael ei arwain gan Laura McAllister (Athro Polisi Cyhoeddus a Llywodraethiant Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd, a Chymrawd er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor), Is-lywydd UEFA a chyn chwaraewr a chapten pêl-droed rhyngwladol Cymru gyda 24 o gapiau.
Bydd panel o ferched o’r byd chwaraeon ac o yrfaoedd amrywiol yn ymuno â Laura:
- Hannah Powell - Swyddog Cefnogi Busnes, Codi Pwysau Cymru
- Dr Sophie Harrison - Darlithydd mewn Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon, Prifysgol Bangor
- Kate Hannon - Chwaraeon Merched Cymru/ Fearless Women
- Ms Tricia Sterling - Prif Hyfforddwr Pêl-rwyd Cymru a Phennaeth Ysgol Addysg, Prifysgol Bangor
Bydd y panel yn adfyfyrio ar y cynnydd sydd wedi’i wneud tuag at gydraddoldeb rhyw yn y byd chwaraeon, y teithiau a’r heriau sydd o’n blaenau o hyd, a’r rôl hollbwysig y mae merched yn ei chwarae yn hyn o beth.
Mwy o wybodaeth i ddilyn.