Digwyddiad Contractwyr - Canolfan Ymchwil Henfaes
Canolfan Biotechnoleg Amgylcheddol: Gwaith Adnewyddu
Mae Prifysgol Bangor ar hyn o bryd yn cwblhau achos busnes i ofyn am gyllid gan Fargen Twf y Gogledd i ehangu ei Chanolfan Biotechnoleg Amgylcheddol.
Bydd y project hwn yn edrych ar y defnydd o brosesau biolegol fel dewisiadau carbon isel yn lle cynhyrchion a phrosesau gweithgynhyrchu diwydiannol.
Bydd y project yn ymchwilio i ensymau unigryw a sut y gallant drawsnewid i fod yn gynhyrchion sy'n cael llai o effaith ar yr amgylchedd na deunyddiau cyfredol a chemegau diwydiannol. Bydd hyn yn helpu busnesau i fanteisio ar dechnolegau gweithgynhyrchu effaith is ac yn gweithio tuag at ddatgarboneiddio.
Bydd y cyllid arfaethedig yn cael ei ddefnyddio i wneud y canlynol:
- Prynu offer ychwanegol i sefydlu cyfleuster newydd sy’n ehangu’r gallu i feithrin microbau i gefnogi datblygiad arfaethedig y Ganolfan Biotechnoleg Amgylcheddol (CEB+).
- Ailwampio gofod yng Nghanolfan Ymchwil Henfaes (Abergwyngregyn), i greu gweithdy newydd yn cynnwys cyfleuster ehangu, cyfleusterau labordy gwell ac ardal fusnes wedi'i huwchraddio.
Digwyddiad Contractwyr
Hoffai Prifysgol Bangor a phartneriaid y project wahodd contractwyr â diddordeb i ymweld â’r safle yn Henfaes i drafod y cynlluniau a gofynion y broses dendro.
Bydd yn ofynnol i gontractwyr ystyried opsiynau lleihau carbon a bioamrywiaeth fel rhan o’u cyflwyniadau tendro, yn ogystal â chael cais i gynnig cyfraniadau gwerth cymdeithasol i’r project drwy fframwaith Themâu, Canlyniadau a Mesurau. Bydd y digwyddiad hwn yn gyfle i drafod y gofynion hyn.
Os hoffech ddod i’r Digwyddiad Contractwyr, llenwch y ffurflen ar-lein a’i dychwelyd at Olivia Cahill, Gweinyddwr Caffael cyn 11 Ebrill 2024. Dim ond i ganfod nifer tebygol y cwmnïau fydd yn dod y defnyddir y wybodaeth hon.
Amserlen Caffael
Mae'r amserlen gaffael fras ar gyfer y gwaith adnewyddu wedi'i chynnwys isod.
Tasg | Dyddiad |
Cyhoeddi Hysbysiad y Contract ar Sell2Wales | 17 Ebrill 2024 |
Dyddiad cau ar gyfer derbyn tendrau drwy eTenderwales. | 31 Mai 2024 am hanner dydd |
Gwerthusiad o dendrau a chymeradwyaeth PB/Bargen Twf y Gogledd | 19 Gorffennaf 2024 |
Dyfarnu Contract (yn amodol ar gymeradwyo cyllid) | 02 Awst 2024 |
Cyfnod paratoi | 09 Awst 2024 |
Dechrau ar y safle | 09 Medi 2024 |
Cyswllt: o.cahill@bangor.ac.uk