Digwyddiad Contractwyr - Prifysgol Bangor – Gwaith Tirlunio Parc y Coleg, Lôn Deiniol, Bangor
Trosolwg o'r Project
Mae Parc y Coleg yn fan gwyrdd pwysig wrth droed Prif Adeilad y Celfyddydau Prifysgol Bangor, sy’n cysylltu’r brifysgol â’r ddinas, ond mae wedi cael ei esgeuluso a heb gael digon o ddefnydd. Yn hanesyddol, mae’r parc wedi cael ei drin fel llecyn ar wahân gyda’i ddefnydd a’i ddiben yn aneglur. Y weledigaeth i Barc y Coleg yw ei wneud yn lle mwy croesawgar i bawb ei fwynhau. Rydym yn bwriadu agor yr ardal hon a chreu man gwyrdd croesawgar yn ninas Bangor. Gyda chyfleusterau newydd, gallai Parc y Coleg gael ei drawsnewid yn barc addysg ac adloniant llawn bywyd a chyffro.
Gwaith Arfaethedig 2024
Mae’r cynigion cychwynnol ar gyfer Parc y Coleg wedi eu cynllunio i helpu gwireddu’r weledigaeth ar gyfer y tir gwyrdd pwysig hwn. Mae ein cynigion yn cynnwys cyfres o ymyriadau yn yr ardal gyda’r nod o wella diogelwch a hygyrchedd yn ogystal ag annog mwy o bobl i ymweld â’r parc.
Dyma rai o’r prif welliannau i seilwaith y parc:
• Creu llwybr hygyrch newydd ar draws y parc sy’n cysylltu ag Adeilad Pontio;
• Creu mynedfa newydd fwy diogel oddi ar Ffordd Deiniol sy’n cysylltu â chanol y ddinas;
• Creu lawntiau defnyddiol i annog gweithgareddau newydd, digwyddiadau ar raddfa fach, lle i ymlacio a dysgu yn yr awyr agored;
• Goleuadau newydd i wella diogelwch ar ôl iddi nosi;
• Rheoli a theneuo’r llystyfiant presennol yn ddetholus i agor y golygfeydd a gwell diogelwch ar hyd y llwybrau troed.
Digwyddiad Contractwyr
Hoffai Prifysgol Bangor a phartneriaid y project wahodd contractwyr â diddordeb i ymweld â Parc y Coleg ym Mangor i drafod y cynlluniau a gofynion y broses dendro.
Os hoffech ddod i’r Digwyddiad Contractwyr, llenwch y ffurflen ar-lein a’i dychwelyd at Olivia Cahill, Gweinyddwr Caffael cyn 20 Mai 2024. Dim ond i ganfod nifer tebygol y cwmnïau fydd yn dod y defnyddir y wybodaeth hon.
Amserlen Caffael
Mae'r amserlen gaffael fras ar gyfer y gwaith adnewyddu wedi'i chynnwys isod.
AMSERLEN CAFFAEL ARFAETHEDIG |
|
Tasg |
Dyddiad |
Cyhoeddi Hysbysiad y Contract ar Sell2Wales |
21 Mehefin 2024 |
Dyddiad cau ar gyfer derbyn tendrau drwy eTenderwales. |
01 Awst 2024 am hanner dydd |
Gwerthusiad o dendrau a chymeradwyaeth PB |
20 Medi 2024 |
Dyfarnu Contract |
23 Medi 2024 |
Cyfnod paratoi |
21 Hydref 2024 |
Dechrau ar y safle |
15 Tachwedd 2024 |
|
Cynlluniau
Hard and Soft Landscape Plan 1
Hard and Soft Landscape Plan 2
Hard and Soft Landscape Plan 3
Site Sections