Diwrnod Eco-Wyddoniaeth i Ysgolion
Gŵyl Wyddoniaeth Bangor
Bydd y Diwrnod Eco-Wyddoniaeth i Ysgolion yn cyflwyno disgyblion ysgol i ystod eang o feysydd a disgyblaethau gwyddonol. Bydd yn ysbrydoli ac addysgu’r disgyblion i gymryd rhan mewn gwyddoniaeth ac arddangos ymchwil Prifysgol Bangor.
Bydd y diwrnod yn cynnwys y canlynol ar gyfer disgyblion Blwyddyn 7 a 8 o ysgolion lleol:
- Trafodaeth ar ‘Ragfarn anwybodus mewn gwyddoniaeth’ gan Dr Gareth Evans-Jones, Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas
- Sesiynau rhyngweithiol gyda staff y Brifysgol. Bydd disgyblion ysgol yn cael y cyfle i ddysgu, gofyn cwestiynau a chymryd rhan mewn nifer o arddangosfeydd gan gynnwys Co-Lab, M-SParc, Prosesu Signalau Digidol, Sefydliad Dyfodol Niwclear, Roboteg a Technocamps, yn ogystal â stondinau rhyngweithiol a ddarperir gan ysgolion academaidd a phartneriaid allanol.