Gweithdy DPP CELT: Arfer Da o ran Dulliau Addysgu Cymraeg a Dwyieithog
Siaradwyr: Dr Myfanwy Davies a Dr Huw Pritchard, Prifysgol Caerdydd
Mae gan addysg uwch ròl ganolog o ran cyrraedd nod Llywodraeth Cymru o greu miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Prifysgol Bangor ydy prif-ddarparwyr addysg Gymraeg gan ddatblygu ddulliau a chynlluniau arloesol ers dros ganrif.
Er hynny, mae’r niferoedd sydd yn dewis Addysg Uwch cyfrwng Cymraeg ar draws Cymru wedi gostwng a’r niferoedd ym Mangor yn sefydlog yn unig a hynny er gwaethaf gofynion cyflogwyr am raddedigion a Chymraeg proffesiynol.
Bydd y sesiwn yma yn cyflwyno trawsieithu o ran cysyniad, prif ddulliau ac effeithiau o ran dysgu a pherfformiad. Bydd yn cynnwys cyfweliad byw gyda Dr. Huw Pritchard o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, Prifysgol Caerdydd i drafod dros ddegawd o gynllunio a thyfu darpariaeth Cymraeg a Dwyieithog yno.
Bydd y sesiwn hefyd yn cynnwys adroddiad ar ganlyniadau cynnar prosiect ymchwil a arweinir gan Brifysgol Bangor, yn archwilio dulliau dysgu, asesu a chefnogaeth Cymraeg a dwyieithog ymysg myfyrwyr dwyieithog nad sydd yn dewis y ddarpariaeth Cymraeg at hyn o bryd.
Iaith y Sesiwn: Cymraeg