Helfa Ffyngau
Cyfeillion Gardd Fotaneg Treborth
Ymunwch â'n helfa madarch gwyllt traddodiadol bore Sadwrn yng Ngerddi Botaneg Treborth. Gweithdai adnabod sy'n cael eu rhedeg gan arbenigwyr lleol Nigel Brown a Charles Aaron, cystadlaethau ffwngaidd a lluniaeth
Mae mycota (neu fflora ffyngol) yr ardd fotaneg yn un o'r rhai mwyaf adnabyddus yng Ngogledd Cymru a chynhelir teithiau hel ffyngau yno ers dros dri deg o flynyddoedd. Nid oes raid i chi fod yn arbenigwr i ryfeddu at yr amrywiaeth anhygoel o gaws llyffant, codau mwg, ffyngau jeli a chingroen a welir ar y teithiau hyn.
Parcio am ddim ar y safle yn y maes chwaraeon. Does dim angen archebu eich lle!