Ymunwch â Dr Gary Robinson Uwch Ddarlithydd Archaeoleg ar gyfer y Sesiwn Blasu ar-lein AM DDIM
Tybir yn aml mai’r Oleuedigaeth oedd diwedd crefydd ac ofergoeliaeth, a dyfodiad oes o resymeg wyddonol a meddwl rhesymegol. Fodd bynnag, mae’r ddarlith hon yn herio’r syniad hwnnw, gan ddadlau bod ffyrdd hud o feddwl yn parhau i’r oes fodern. Byddwn yn canolbwyntio ar ryfela - yn benodol y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd yn Ewrop - a byddwn yn archwilio defnydd symbolau hud a lledrith a thalismoniaid yn y fyddin, yr oedd rhai ohonynt yn gymeradwy ac yn cael eu hannog yn swyddogol gan lywodraethau. Trwy archwilio diwylliant materol y cyfnod, byddwn yn ystyried sut y defnyddid y gwrthrychau hynny, yr hyn y maent yn ei ddatgelu am gredoau’r milwyr, a pham eu bod yn parhau i fod yn arwyddocaol o ran deall y gorffennol a'r presennol.
Cewch weld ein Hysbysiadau Preifatrwydd yma. Trwy gyflwyno'r ffurflen gofrestru rydych yn cytuno â thelerau defnyddio a hysbysiad preifatrwydd y Brifysgol. Cewch gysylltu â ni ar unrhyw adeg i dynnu'ch cydsyniad yn ôl neu newid eich dewisiadau cydsyniad.
Caiff y sesiwn ei chyflwyno trwy gyfrwng y Saesneg.
Archwiliwch y gyfres Sesiynau Blasu: