Mining our way out of the climate crisis: potential environmental risks associated with resourcing low carbon technology
Darlith Agoriadol yr Athro Graham Bird
"Y prif gam gweithredu angenrheidiol i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd yw datgarboneiddio, yn arbennig yn ein sectorau cynhyrchu ynni a thrafnidiaeth. Mewn geiriau eraill, rhaid i ni roi'r gorau i echdynnu ffynonellau ynni tanwydd ffosil o'r ddaear. Mae carbon isel, technoleg ynni adnewyddadwy a thechnoleg cerbydau trydan yn allweddol i ddatgarboneiddio. Mae'r dechnoleg hon yn ei gwneud yn ofynnol i ni ddefnyddio nifer o adnoddau metel (e.e. cobalt, elfennau daear prin). Felly, yn eironig braidd, bydd rhaid i ni echdynnu'r adnoddau hyn o'r ddaear.
"Cafodd effeithiau amgylcheddol mwyngloddio metel eu cofnodi gan yr ysgolheigion Groegaidd hynafol, ac yn fwy diweddar mae fy ymchwil i wedi canolbwyntio ar y prosesau y mae effeithiau amgylcheddol yn digwydd drwyddynt a modelu’r effaith fyd-eang. Felly, er bod risg amgylcheddol bosib yn gysylltiedig â’n hymgais i chwilio am fetelau i ddarparu adnoddau ar gyfer technoleg garbon isel, mae ymchwil hefyd yn dangos y gellir rheoli’r effeithiau hyn mewn gweithiau mwyngloddio modern ac adfer y tiroedd cysylltiedig. Bydd y cyflwyniad hwn yn esbonio'r cynnydd yn y galw am fwynau i adnoddau a thechnoleg ynni isel, yn rhoi enghreifftiau o’r effeithiau amgylcheddol a allai ddeillio o’r ymgais, ond hefyd y cynnydd sydd wedi ei wneud o ran atal ac adfer effeithiau o'r fath. "
Mae'r Athro Graham Bird yn ddaearyddwr ffisegol ac, yn fwy penodol, yn geocemegydd amgylcheddol. Mae ei waith wedi canolbwyntio ar y Deyrnas Unedig ond mae hefyd yn cynnwys lleoliadau fel Bwlgaria, Canada, Indonesia, Kosovo a Romania.
Mae ymchwil Graham ym maes geocemeg amgylcheddol yn gyffredinol, gyda diddordeb arbennig yn effaith methiannau argaeau mwyngloddio metel, meteleg a sorod mwyngloddio ar systemau afonydd; ymchwil i ffurfiant rhywogaethau metel halogedig gan ddefnyddio gweithdrefnau echdynnu dilyniannol (SEPs) a'r defnydd o isotopau Pb fel olrheinwyr geocemegol o waddod a gwasgariad metel sy'n gysylltiedig â gwaddod; adlunio hanes gwasgariad halogion a gwaddodiad gan ddefnyddio technegau olion bysedd geocemegol cyfansawdd a modelau cymysgu aml-amrywedd.
Mae Graham yn Ddirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol Addysgu a Dysgu ym Mhrifysgol Bangor, yn ogystal â Chyfarwyddwr Addysgu a Dysgu yng Ngholeg y Gwyddorau a Pheirianneg ac yn Ddirprwy Bennaeth yr Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol.
Traddodir y ddarlith hon yn Saesneg.
Bydd y ddarlith yn cael ei ffrydio'n fyw. Ni fydd y rhai sy'n mynychu'r ddarlith o bell yn gallu gofyn cwestiynau.
Pynciau Cysylltiedig
Main Arts Building, Bangor University
Map
Main Arts Building
Main Arts Lecture Theatre
Top College
Bangor University
LL57 2DG