MIS HANES LHDTC+
Cynhelir cyfres o sgyrsiau gan Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol Bangor, ddydd Mawrth, 21 Chwefror, i nodi Mis Hanes LHDTC+. Bydd y sgyrsiau wedi eu hanelu at fyfyrwyr Safon Uwch ac yn ystyried agweddau crefyddol, athronyddol, a hanesyddol ar LHDTC+.
Trafodir dysgeidiaethau Bwdhaidd a chwirwydd, perthynas paganiaeth a’r gymuned LHDTC+, sut mae Hindŵaeth yn ymdrin â’r gymuned LHDTC+, ac yn ystyried hanes pobl hoyw a hoywder adeg yr Holocost, agwedd nad yw’n cael ei hystyried yn gyson.