Serendipedd: Awr Ddistaw
Yn Serendipedd eleni byddwn yn cyflwyno awr dawel i gynnig awyrgylch tawel a heddychlon i'r rhai hynny sy’n ei chael hi’n llethol bod mewn torfeydd mawr. Yn ystod y cyfnod hwn, gofynnwn yn garedig i bawb sy’n cymryd rhan gadw’r lefel sŵn mor isel â phosib ac ymatal rhag gweithgareddau swnllyd neu aflonyddgar. Bydd hynny’n helpu sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau’r ffair a chymryd rhan lawn ynddi, beth bynnag eu goddefgarwch synhwyraidd.