Sesiwn Symudiad ac Ymwybyddiaeth Ofalgar Diwrnod Amser i Siarad
Dydd Iau, 1 Chwefror, byddwn yn cynnal sesiwn symud rhydd ac ymwybyddiaeth ofalgar i staff o 12.30-1.30pm yn y Bocs Gwyn yn Pontio. Ar gyfer Diwrnod Amser i Siarad 2024, mae croeso i staff ymuno â sesiwn ymwybyddiaeth ofalgar yn y cnawd a gynhelir gan Dr Gemma Griffith o’r Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar. Bydd y dosbarth yn cynnwys cymysgedd o symud ysgafn a myfyrdod. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael, felly gofynnir i chi archebu eich lle yma.