Sesiynau Tai Chi RHAD AC AM DDIM dros Amser Cinio!
Ydych chi’n teimlo wedi'ch llethu gan eich amserlen brysur? Gan ddechrau 30 Medi, cymerwch seibiant heddychlon gyda'n sesiynau Tai Chi RHAD AC AM DDIM!
Cynhelir y sesiynau rhwng 12.30 a 13.30 bob dydd Llun i ddydd Gwener o 30 Medi - 13 Rhagfyr 2024.
Does dim angen archebu ymlaen llaw. Mae croeso i bawb!
Beth i'w Ddisgwyl?
Ymarfer gosgeiddig a braf yw Tai Chi, sy'n helpu o ran ymlacio, ystwythder ac ymwybyddiaeth ofalgar. Mae'n addas i bob oedran a lefel ffitrwydd. Bydd ein hyfforddwr profiadol yn eich arwain trwy symudiadau ysgafn, a’ch helpu chi ddod o hyd i dawelwch yng nghanol prysurdeb y diwrnod.
Pam Ymuno â Ni?
- RHAD AC AM DDIM: Dim cost am seibiant i dawelu’r meddwl!
- Awyrgylch Tawel: Mwynhewch awyrgylch tawel Neuadd Rathbone.
- Buddion Iechyd: Gwella cydbwysedd y corff, lleihau straen, a gwella llesiant cyffredinol.
- Cymuned: Cyfle i gysylltu ag eraill a mwynhau ymarfer mewn grŵp.
Beth sydd arnaf ei angen?
- Dillad cyfforddus, potel ddŵr, a meddwl agored!
Nodiadau Pwysig:
Cadwch lygad ar ein gwefan neu’r cyfryngau cymdeithasol am unrhyw ddiweddariadau neu newidiadau i'r amserlen.
Darganfod Cytgord Mewnol dros Amser Cinio:
P’un a ydych yn ymarferwr profiadol neu’n newydd i Tai Chi, mae ein sesiynau amser cinio wedi’u cynllunio i gynnig egwyl adfywiol ac i hybu llesiant.
I gael rhagor o wybodaeth a diweddariadau, ewch i'n gwefan neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol.
Edrychwn ymlaen at rannu crefft Tai Chi gyda chi!
Cyswllt: confuciusinstutute@bangor.ac.uk