Beth yw 'Siarad Dylunio yn Fyw 2024'?
Ydych chi yn ddyluniwr uchelgeisiol, yn weithiwr proffesiynol creadigol, yn weithgynhyrchwr, neu'n wneuthurwr newid? Trefnir y digwyddiad 'Siarad Dylunio yn Fyw 2024' gan gwrs gradd Dylunio Cynnyrch, Prifysgol Bangor ac mae'n gyfle gwych i rwydweithio a chlywed y diweddaraf gan unigolion arbennig sy'n gweithio ym meysydd dylunio a gweithgynhyrchu.
Wedi'i hamseru i gyd-fynd â Sioe Radd Dylunio Prifysgol Bangor, mae'r gynhadledd yn nodi penllanw wythnos o ddathlu dylunio ac arloesi.
Siaradwyr Gwadd
Mae 'Siarad Dylunio yn Fyw 2024' yn dwyn ynghyd wyth siaradwr nodedig o'r sectorau dylunio a gweithgynhyrchu, pob un yn cynnig safbwyntiau ac arbenigedd unigryw. Ewch i brif dudalen y digwyddiad am fwy o wybodaeth ar ein siaradwyr gwadd.