Bydd yr Athro Tim Lang , ffermwr mynydd ac academydd sydd wedi treulio’i fywyd yn astudio’r berthynas rhwng bwyd, iechyd, yr amgylchedd a diwylliant yn traddodi darlith gyhoeddus yn Narlithfa Eric Sunderland ym Mhrifysgol Bangor am 17.30 nos Wener 17 Tachwedd. Mae croeso i bawb i’r ddarlith.
Bydd y ddarlith flynyddol mewn perthynas â Chymdeithas y Cenhedloedd Unedig yn adolygu'r bwlch rhwng tystiolaeth, polisi a realiti yn y systemau bwyd presennol.
Bydd Tim Lang, Athro Emeritws mewn Polisi Bwyd o Ganolfan Polisi Bwyd Prifysgol Llundain yn olrhain y daith hir o uchelgais Prydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd i gynhyrchu mwy o fwyd a thrwy hynny ddatrys y broblem newyn i'r amrywiaeth gymhleth o heriau heddiw ar lefel fyd-eang. Meddai Tim Lang,
“Mae bwlch sy’n peri pryder rhwng cynhyrchu bwyd, yr hyn gaiff ei fwyta ac iechyd y cyhoedd a’r amgylchedd. Mae pandemig o glefydau sy'n gysylltiedig â diet er gwaethaf dyheadau clodwiw gweledyddion y 1940au. Mae'r Deyrnas Unedig yn bennaf naill ai wedi osgoi neu cuddio’r heriau hyd yma. Ond mae pocedi o ymarfer da a chydnabyddiaeth bod blynyddoedd system bwyd-amaeth diwedd yr ugeinfed ganrif wedi dod i ben mwy na thebyg. Yn y ddarlith, byddaf yn ystyried beth all ddatgloi’r polisi hwn. Mae angen ymgysylltu â’r cyhoedd yn bendant. Y cwestiwn yw a all hyn ddod o ddewis neu a all digwyddiadau gyfyngu ar yr opsiynau.”
Ffermio mynydd yn y 70au a ffurfiodd ddiddordeb Tim Lang yn y berthynas rhwng bwyd, iechyd, yr amgylchedd a diwylliant, maes y mae wedi gweithio arno byth ers hynny. Mae ei waith wedi pontio addysg, gwyddoniaeth a llywodraethu, gan weithio naill ai gyda neu ar gyfer y sector cyhoeddus a buddiannau cymdeithas sifil ar lefelau byd-eang, Undeb Ewropeaidd, cenedlaethol, lleol a rhanbarthol.
Mae'n Gymrawd Cyfadran Iechyd y Cyhoedd, yn Llywydd Garden Organic ac yn Uwch Gynghorydd i'r Cydweithrediad Ymchwil Bwyd sy'n cysylltu'r byd academaidd gyda chymdeithas sifil ar faterion bwyd (2013-23). Ei lyfr diweddaraf yw Feeding Britain, sy'n edrych ar ystyr diogelwch bwyd i economïau cyfoethog, gan ddadlau bod gwledydd datblygedig yn mynd y tu hwnt i’w hôl troed ecwiti bwyd. Ar hyn o bryd mae'n ymchwilio i'r achos dros wytnwch bwyd sifil ac amddiffyn.