Stori Ysbrydoledig y Parch. Sarah Jones
Y ficer traws agored cyntaf yn Eglwys Loegr (Mis Hanes LHDTC+)
Bydd Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd ym Mhrifysgol Bangor mewn cydweithrediad â Chanolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru yn sgwrsio gyda'r Parch. Sarah Jones mewn digwyddiad arbennig i ddathlu Mis Hanes LHDTC+.
Mae'r Parch. Sarah Jones yn ffigwr amlwg o fewn y gymuned LHDTC+ ac wedi cyfrannu'n enfawr i feysydd cymdeithasol, crefyddol a hyrwyddo cynwysoldeb. Sara oedd y ficer traws cyntaf i gael ei hordeinio gan Eglwys Loegr, a oedd yn ddigwyddiad hynod bwysig yn hanes Cristnogaeth fodern ym Mhrydain, a chyda hynny, fe'i hanrydeddwyd ag amryw wobrau am ei gwaith.
Nos Lun, 26ain o Chwefror, bydd Dr Gareth Evans-Jones, darlithydd Athroniaeth a Chrefydd ym Mhrifysgol Bangor a chyd-gyfarwyddwr Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru yn cynnal sgwrs gyda Sarah, a fydd yn rhad ac am ddim i'w mynychu ac yn digwydd dros Zoom.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn y cyfamser, mae croeso ichi gysylltu â Dr Gareth Evans-Jones: g.evans-jones@bangor.ac.uk.