Darlith Tîm Caplaniaeth Prifysgol Bangor
Darlith Gyhoeddus Ar-lein
3 o’r gloch y pnawn - Dydd Iau, 20 Chwefror 2025
Y dyddiau hyn, gwelwn gynnydd rhyfeddol yn amlder a dwyster gwahanol fathau o 'ffurfiau difrifol o adfyd cyfunol' yn ein byd, sy'n anochel yn effeithio arnom ni mewn sawl ffordd. Mae’r cyfryngau cyfathrebu torfol a’r cyfryngau cymdeithasol yn ein boddi ag esboniadau a naratifau cyferbyniol, yn amrywio o’r credadwy i’r rhyfedd, ond gan gyflwyno adroddiadau sydd gan fwyaf wedi’u gorsymleiddio ac yn unochrog. Y ffordd amlycaf o bell ffordd o ddeall ymateb pobl (yn unigol ac ar y cyd) i'r digwyddiadau trallodus hyn fu 'trawma'. Eto i gyd, bu’r 'disgwrs trawma' yn ddiffygiol o ran amgyffred agweddau mwy cynnil y profiadau hyn.
Nod y cyflwyniad hwn yw darparu fframwaith sy'n mynd i'r afael â'r cymhlethdodau hyn, gan ddirnad agweddau newydd ac arwyddocaol ar y ffenomenau hyn, yn cynnwys y frwydr sylfaenol i ddeall dioddefaint dynol; natur ac effeithiau aml-erledigaeth; cymhlethdodau 'anafiadau moesol'; ac ailwerthuso’r agweddau o staff yn gorflino a’u hunanofal. Yn ganolog i'r fframwaith hwn mae'r 'Grid Adfyd', sy'n cysyniadoli'n ystyrlon yr ystod o ganlyniadau sy'n deillio o’r digwyddiadau trallodus hyn, gan bwysleisio pwysigrwydd osgoi trin dioddefaint dynol fel patholeg, adnabod cryfderau hen a newydd, a galluogi rheoli sefyllfaoedd cymhleth yn briodol.
Mae Renos K Papadopoulos, PhD., FBPSS, yn Athro a Chyfarwyddwr Y Ganolfan Trawma, Lloches a Ffoaduriaid a'r Rhaglenni MA/PhD mewn Gofal Ffoaduriaid ym Mhrifysgol Essex. Mae hefyd yn Seicolegydd er anrhydedd yng Nghlinig Tavistock. Mae'n Seicolegydd Clinigol, yn Seicdreiddiwr Jungian, ac yn Therapydd Teuluol Systemig
sy’n gweithio fel ymarferydd clinigol, hyfforddwr a goruchwyliwr. Ar gorn ei waith yn ymgynghorydd i'r Cenhedloedd Unedig a sawl sefydliad arall, bu’n gweithio gyda ffoaduriaid, pobl wedi'u harteithio a’u masnachu a goroeswyr trais gwleidyddol a thrychinebau eraill mewn amryfal wledydd. Mae ei ysgrifau wedi ymddangos mewn 18 o ieithoedd. Derbyniodd wobrau gan sawl corff rhyngwladol am ei agwedd unigryw at waith dyngarol. Mae ei ddau lyfr diweddaraf yn trafod Anafiadau Moesol, a Dadleoliad Anwirfoddol; gyda’r olaf o’r rhain wedi'i glodfori am sefydlu patrwm newydd yn y maes.
DARLITH I GAEL EI GYFLWYNO DRWY GYFRWNG Y SAESNEG
Mae’r digwyddiad hwn am ddim ond rhaid cofrestru.