Ymgysylltu — darlithoedd ym meysydd peirianneg, cyfrifiadura a dylunio
Seiberddiogelwch wedi’i Dadorchuddio: Straeon a Strategaethau o’r Rheng Flaen
Ymgysylltu – cyfres o ddarlithoedd am amrywiol bynciau sy’n ymwneud â Pheirianneg, Cyfrifiadura a Dylunio, a drefnir gan Gangen Myfyrwyr Sefydliad y Peirianwyr Trydanol ac Electronig ac Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Prifysgol Bangor.
Ymgysylltu — darlithoedd ym meysydd peirianneg, cyfrifiadura a dylunio
Croeso i bawb.
Dewch i ni ddod at ein gilydd i Ymgysylltu, rhannu, ac ysbrydoli!
Ymunwch â ni ar ddydd Mercher 6 Mawrth, am 12 p.m. yn 211, Stryd y Deon lle cawn ddarlith arbennig gan Dr Les Pritchard (Neterix)
“Seiberddiogelwch wedi’i Dadorchuddio: Straeon a Strategaethau o’r Rheng Flaen”
Enillodd Les Pritchard PhD yn cyfrifiadura gwasgaredig a diogelwch gan Brifysgol Bangor yn 2006. Ar ôl gweithio fel rheolwr rhwydwaith ac ymchwiliwr fforensig, mae’n nawr yn gweithio fel arbenigwr seiberddiogelwch trwy’r ei gwmni Neterix. Gweithiwyd Les efo amrywiaeth o gleientiaid o’r DU a thramor, yn gynnwys cwmnïau rhyngwladol, elusennau, clybiau pêl-droed y Premier League a gofal iechyd.
Bydd y sgwrs hon yn rhannu ei brofiad yn gweithio mewn diwydiant dynamig. Mi wneith o drafod bygythiadau mwyaf cyffredin sy’n effeithio cwmnïau ac unigolion, ac yn rhoi cyngor am sut i helpu eu hosgoi nhw. Mi fydd Les hefyd yn ymdrin â’r hanesynnau byd go iawn o’i amser yn gweithio efo cleientiaid. Bydd y sgwrs yn gynnwys arddangosiadau o wendidau cyffredin a diogelwch amgylcheddau'r ‘cloud’.