Sut ydym yn astudio gwely’r môr, sy’n amgylchedd sydd wedi’i orchuddio â chefnforoedd? Mae daearegwyr morol yn anfon tonnau sain trwy'r cefnfor i wely'r môr. Mae’r sŵn sy'n dod yn ôl yn ein helpu i ganfod sut olwg sydd ar wely'r môr. Rydym hyd yn oed yn canfod yr hyn sydd oddi tano, sef gwely môr y gorffennol. Cafodd gwely'r môr o amgylch Cymru ei siapio drwy lif iâ filoedd o flynyddoedd yn ôl. Mae'r hanes rhewlifol hwn yn ein helpu i wella ein dealltwriaeth o ddynameg iâ pegynol heddiw. Mae effaith rhew ar wely’r môr yn y gorffennol hefyd yn ein helpu i ddeall symudedd gwely'r môr heddiw. Mae’n dangos y ffordd orau i wely’r môr gynnal isadeiledd, megis ffermydd gwynt, i gyflymu’r trawsnewid ynni. Yn olaf, mae'r gwaddodion a ddygir gan yr iâ’n gartref i ystod eang o anifeiliaid sydd â sgiliau a swyddogaethau amrywiol. Mae angen inni ofalu am yr ecosystemau morol hyn wrth inni gynllunio ffermydd gwynt ar y môr.
Tonnau sain morol, o fewn gwyddoniaeth a chymdeithas… Ond mae'r sain o'r aer sy'n mynd heibio i'n cortynnau lleisiol hefyd yn bwysig. Gallwn godi’n llais, rhannu profiadau, bod yn fentor, gwrando'n dawel. Gallwn helpu i chwalu rhwystrau, ehangu cyfranogiad a chynyddu cyfraddau cadw o fewn gwyddoniaeth. Mae arnom angen ystod ehangach o bobl â sgiliau a safbwyntiau amrywiol. Gadewch inni alluogi hynny, gyda’r ddarlith, Sound waves for Science and Society…
Mae'r Athro Katrien Van Landeghem yn darlithio mewn Daeareg Môr a Geoffiseg. Mae hi’n arbenigo mewn morffodynameg gwely'r môr o amgylch gwrthrychau a'i gysylltiadau â rheolaeth gynaliadwy projectau peirianneg, dynameg rewlifol ac addasrwydd cynefinoedd ac ecosystemau ehangach.
Mae Katrien yn gweithio ar brojectau mawr sy’n cefnogi datblygu cyfleoedd economaidd ym maes carbon isel, ynni a’r amgylchedd (projectau SEACAMS a SEEC) a hi oedd Cymrawd sy’n Dychwelyd NRN-LCEE Sêr Cymru ar sgwrfa wely’r môr o amgylch strwythurau gwely’r môr. Mae Katrien yn asesu ac yn rhagweld symudedd gwely'r môr mewn amgylcheddau rhewlifol cymhleth (palaeo), wedi ei ategu gan fodelu mwy manwl gywir. Mae ei gwaith yn sail i fapiau cynefinoedd ym Môr Iwerddon ac mewn ardaloedd pegynol. Mae Katrien yn arbenigo mewn tonnau gwaddod chwyddedig ac erydiad cyflym o wely'r môr o amgylch ffermydd gwynt a cheblau, gyda goblygiadau ecolegol.
Mae ei phrojectau trosglwyddo gwybodaeth wedi cael cyllid gan ymgynghorwyr statudol i Lywodraeth y Deyrnas Unedig, peirianwyr ac ymgynghorwyr morol, y diwydiant cerrig mân a gro, datblygwyr ynni adnewyddadwy morol, cysylltwyr seilwaith alltraeth a rheolwyr arfordiroedd.
Traddodir y ddarlith hon yn Saesneg.
Bydd lluniaeth ar gael ar ôl y ddarlith.