Ysgol Busnes Albert Gubay – Digwyddiad Contractwyr
Mae Prifysgol Bangor wedi derbyn rhodd nodedig gan Sefydliad Elusennol Albert Gubay a fydd yn gyfleuster o’r radd flaenaf ar safle hen Ysgol Friars ar Ffordd Ffriddoedd ym Mangor.
Mae Prifysgol Bangor wedi derbyn rhodd nodedig gan Sefydliad Elusennol Albert Gubay a fydd yn gyfleuster o’r radd flaenaf ar safle hen Ysgol Friars ar Ffordd Ffriddoedd ym Mangor.
Bydd adnewyddu a datblygu’r adeilad a’r safle hanesyddol hwn yn cynnig cyfle cyffrous iawn i greu ysgol fusnes sy’n arwain y sector, yn ogystal ag adnewyddu adeilad ac iddo arwyddocâd hanesyddol ym Mangor.
Nod y project yw canolbwyntio ar drin yr adeilad hanesyddol a’i ymestyn i wneud lle pwrpasol a bywiog i’r Ysgol Busnes, er mwyn gwella’r profiad i ymwelwyr, myfyrwyr ac aelodau staff, ac yn ei dro denu myfyrwyr a staff y dyfodol i'r brifysgol.
Digwyddiad Contractwyr
Mae Prifysgol Bangor a phartneriaid y prosiect bellach yn cynllunio'r broses dendro i benodi contractwr i ymgymryd â'r gweithiau hyn a hoffent wahodd contractwyr sydd â diddordeb yn y cynllun i fynychu digwyddiad yn Neuadd Reichel, Bangor i drafod cynlluniau a gofynion y broses dendro.
Os hoffech ddod i’r Digwyddiad Contractwyr, llenwch y ffurflen ar-lein a’i dychwelyd at Olivia Cahill, Gweinyddwr Caffael cyn 31 Mawrth 2025. Dim ond i ganfod nifer tebygol y cwmnïau fydd yn dod y defnyddir y wybodaeth hon.
Amser Caffael
Mae'r amserlen gaffael fras ar gyfer y gwaith adnewyddu wedi'i chynnwys isod.
Tasg | Dyddiad |
Cyhoeddi Hysbysiad y Contract ar Gwerthwch i Gymru | 06 Mai 2025 |
Dyddiad cau derbyn ceisiadau i gymryd rhan. | 11 Mehefin 2025 |
Gwerthuso a nodi contractwyr i’w rhoi ar y rhestr fer. | 24 Mehefin 2025 |
Cyhoeddi gwahoddiad i dendro | 25 Mehefin 2025 |
Dyddiad cau derbyn tendrau | 29 Mehefin 2025 |
Cynnal cyfweliadau | 20 - 27 Awst 2025 |
Gorffen gwerthuso’r tendrau | 28 Awst 2025 |
Cyhoeddi crynodebau asesu | 28 Awst 2025 |
Dyfarnu Contract (PCSA) | 30 Medi 2025 |